Awdurdod y Parc Cenedlaethol 29/03/23
10.30am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2023
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd
6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2023 a 13 Chwefror 2023
7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adnoddau Dynol a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2023
8. Ystyried adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Ieuenctid a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2023 a 28 Chwefror 2023
9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
07/23 Ymateb i Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 15 Llywodraeth Cymru: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol – diwygiadau pellach
Mae’r adroddiad yn chwennych cymeradwyaeth i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygiadau arfaethedig pellach i Nodyn Cyngor Technegol 15 ar Lifogydd ac Erydu Arfordirol.
08/23 Goblygiadau Newidiadau Polisi Cynllunio a Deddfwriaethol diweddar Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag Ail Gartrefi a Llety Gosod Tymor Byr.
Mae’r adroddiad yn gosod allan crynodeb o newidiadau polisi cynllunio a deddfwriaethol Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cyflwyno’n ddiweddar a goblygiadau’r newidiadau hyn wrth ystyried ceisiadau cynllunio cyfredol o dan y Cynllun Datblygu Lleol (2) ac yn nhermau’r dewisiadau mewn perthynas â Chyfarwyddyd Erthygl 4.
09/23 Pwyllgor Ieuenctid Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae’r adroddiad yn diweddaru’r Aelodau ynghylch gwaith y Pwyllgor Ieuenctid ac yn chwennych cymeradwyaeth Maniffesto Ieuenctid Cenhedlaeth Nesaf APCAP.
I dderbyn ynghylch Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Bydd y cyflwyniad yn gosod allan amcanion a gobeithion yr Ymddiriedolaeth, sut a pham y cafodd ei sefydlu, ystyried ei effaith hyd yma a sut y mae o fudd i’r Parc Cenedlaethol. Bydd Elsa Davies, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth hefyd yn bresennol.
10/23 Adnewyddu Memorandwm o Ddealltwriaeth gydag Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae’r adroddiad yn argymell y dylid cytuno ar Femorandwm o Ddealltwriaeth newydd gydag Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gyfer y cyfnod Ebrill 2018 hyd Mawrth 2023.
11/23 Grŵp Gorchwyl a Gorffen Aelodau i ystyried Cyllido Toiledau
Gofynnir i’r Aelodau ffurfio Grŵp Gorchwyl a Gorffen Aelodau i ystyried sut i ymateb i lythyr wrth Cyngor Sir Penfro ynghylch cyllido toiledau.
12/23 Cyfethol y Cadeirydd yn aelod o Gydbwyllgor Corfforaethol De Orllewin Cymru ac Aelodau i’r Grŵp Scrwtineiddio ac Is-grwpiau eraill
Mae’r adroddiad yn chwennych cymeradwyaeth i gyfethol Aelodau yn aelodau o Gydbwyllgor Corfforaethol De Orllewin Cymru ac yn aelodau o’r Grŵp Scrwtineiddio ac Is-grwpiau eraill.
13/23 Cydnabyddiaeth Aelod 2023/24
Mae’r adroddiad yn hysbysu’r Aelodau o benderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Daliadau Cydnabyddiaeth o ran y Cyflogau Sylfaenol ac Uwch sy’n daladwy i Aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn y flwyddyn ariannol 2023/24.
14/23 Digwyddiadau Corfforaethol
Gofynnir i’r Aelodau benderfynu a chymeradwyo’r lefel o gynrychiolaeth yn y digwyddiadau corfforaethol a nodir yn yr adroddiad.
15/23 Calendar Cyfarfodydd 2022/2023
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo calendar o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn nesaf.