Pwyllgor Adolygu Gweithredol 15/03/23
10am, Rhith-Gyfarfod
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2022
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5. Ystyried yr adroddiad canlynol:
01/23 Partneriaeth Natur Sir Benfro
Gofynnir i’r Aelodau graffu a chael trosolwg o waith Partneriaeth Natur Sir Benfro fel y nodir yn yr adroddiad.
02/23 Cyflwyniad a Throsolwg o Bencampwriaethau Rhwyfo Arfordirol y Byd a Rowndiau Terfynol Sbrintiau Traeth 2022 a’r broses o ennill Tystysgrif mewn Cynaliadwyedd
Mae’r adroddiad a’r cyflwyniad hwn yn rhoi trosolwg o Bencampwriaethau Rhwyfo Arfordirol y Byd a Rowndiau Terfynol Sbrintiau Traeth 2022 a gynhaliwyd yn Saundersfoot, a chyfraniad yr Awdurdod i alluogi’r digwyddiad lwyddo i ennill Tystysgrif y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Safoni (ISO) ar Gynaliadwyedd mewn Rheoli Digwyddiadau.
03/23 Adroddiad am Berfformiad am y Cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Ionawr 2023.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad hyd at 31 Ionawr 2023 ar gyfer data misol ac ystadegau chwarter 1 – 3 ar gyfer rhai setiau data.