Pwyllgor Adolygu Gweithredol 16/03/22
10am, Rhith-Gyfarfod
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2021
4. Ystyried y Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd P Kidney bod yr Awdurdod yn cynnal trafodaethau gyda Chyngor Cymuned Llandyfai, ac unrhyw un arall sydd â budd, naill ai i roi darn o dir yn Freshwater East fel rhodd, neu ei werthu ar gyfer darparu ardal chwarae i blant (Adroddiad 01/22)
5. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
02/22 Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Gwahoddir yr Aelodau i gyfrannu i gynnwys Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2021/22 ac i lywio’r datganiad.
03/22 Adroddiad am Berfformiad am y Cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Ionawr 2022
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad hyd at 31 Ionawr 2022 ar gyfer data misol ac ystadegau chwarter 1 – chwarter 3 (Ebrill – Rhagfyr) ar gyfer rhai setiau data.
04/22 Ystâd Hyfforddiant Amddiffyn – Adroddiad Blynyddol y Parcmon 2021
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar y gwaith partneriaeth rhwng y Sefydliad Seilwaith Amddiffyn, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
5. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.