Pwyllgor Adolygu Gweithredol 23/09/20
10am, Rhith-Gyfarfod
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2020
4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
09/20 Adroddiad ar y Cynnydd o ran Trawsnewid Digidol yn y Tîm Rheoli Cefn Gwlad
Mae’r adroddiad yn amlinellu’r cynnydd y mae’r Tîm Rheoli Cefn Gwlad wedi’i wneud o ran digideiddio ei lif gwaith, gan gynnwys arolygiadau, yn ogystal ag o ran cynllunio ac amserlennu gwaith, gan ddefnyddio’r Arc Online Software Platform ers mis Hydref 2018. Mae’n cynnwys enghreifftiau manwl ac amlinelliad o gynlluniau ar gyfer y dyfodol.
10/20 Adroddiad Cadwraeth 2019-2020
Mae’r adroddiad yn nodi’r canlyniadau a gyflawnwyd ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwn drwy ei waith cadwraeth yn ystod blwyddyn ariannol 2019-20.
11/20 Adroddiad Archaeoleg Blynyddol 2019 – 2020
Mae’r adroddiad yn amlinellu cyflwr presennol yr henebion cofrestredig yn y Parc Cenedlaethol, rhaglenni gwaith archaeoleg 2019 – 2020 ac yn nodi blaenoriaethau ar gyfer 2020 – 2021 a thu hwnt. Tynnir sylw hefyd at effaith sylweddol COVID-19.
Gofyn i’r Aelodau ystyried y gofrestr risg ddiweddaraf.
13/20 Adroddiad am Berfformiad am y Cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2020
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad hyd at 31 Gorffennaf 2020 ar gyfer data misol ac ystadegau chwarter 1 (Ebrill – Mehefin) ar gyfer rhai setiau data.
5. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.