Pwyllgor Adolygu Gweithredol
Rhith-cyfarfod, 10am
1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
Enwebiad derbyniedig: Cynghorydd K Doolin
2. Ethol Dirprwy Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
Enwebiad derbyniedig: Neb
3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
4. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
5. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2019
6. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
05/20 Gweithio gyda’r Ysgolion – Ymateb i heriau’r Cwricwlwm newydd i Gymru
Mae’r adroddiad yn rhoi adolygiad i’r Aelodau ar waith yr Awdurdod ar addysg ac yn arbennig yn rhoi diweddariad ar y modd y mae ein gwasanaethau yn y maes hwn yn ymateb i heriau’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau ar Bartneriaeth Llygredd Golau Sir Benfro ac ar bapur y bartneriaeth ‘Awyr Serennog Sir Benfro’.
07/20 Adroddiad Perfformiad am y Cyfnod yn diweddu ar yr 31 Mawrth 2020
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r perfformiad am y flwyddyn ariannol gyfan – o fis Ebrill i fis Mawrth 2019/20, ac mae’n cynnwys data Chwarter 4 (Ionawr – Mawrth) ar gyfer y mwyafrif o’r setiau data.
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.
7. Derbyn cyflwyniad ar y gweithgareddau marchnata allweddol sy’n gysylltiedig â’r Fenter Llwybrau Celtaidd
8. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.