Pwyllgor Adolygu Gweithredol 12/06/2024
10:00am, Rhith-Gyfarfod
1.Derbyn ymddiheuriadau am absenolded
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 06 Mawrth 2024
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
03/24 Archwiliad Dwfn/ Hunanasesiad o’r Amcan Llesiant: Cysylltiad
Cyflwyno asesiad archwiliad dwfn o un o amcanion llesiant, sef Cysylltiad.
04/24 Adolygiad o’r Prosiect y 1,000 Diwrnod Cyntaf
Cyflwyno adolygiad i’r Aelodau o waith y Prosiect Y 1,000 Diwrnod 1af a’r modd y mae’r gweithgaredd presennol ac arfaethedig yn y maes hwn yn cael ei ddatblygu i ddiwallu anghenion plant a’r rhai sy’n rhoi gofal i’r grŵp oedran hwn.
05/24 Adolygiad o’r Prosiect Cerdded er Lles yng Ngorllewin Cymru
Cyflwyno adroddiad i’r Aelodau ar weithgareddau, allbynnau a chanlyniadau’r prosiect Cerdded er Lles yng Ngorllewin Cymru yn dilyn cwblhau’r prosiect fis Ionawr 2024.
06/24 Adroddiad ar Berfformiad Amcanion Llesiant
Cyflwyno adroddiad ar y camau ymlaen yn erbyn y dangosyddion / prosiectau / rhaglenni gwaith blaenoriaeth am y cyfnod yn diweddu 31 Mawrth 2024.