Pwyllgor Adolygu Gweithredol 25/09/2024

Dyddiad y Cyfarfod : 25/09/2024

1.00yp, Rhith-gyfarfod

1.Penodi Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig: Dr R Plummer

2. Penodi Dirprwy Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiadau derbyniedig: Neb

3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

4. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

5. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2024

6. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

7. Ystyried yr adroddiad canlynol:

07/24    Archwiliad Dwfn/ Hunanasesiad o’r Amcan Llesiant: Hinsawdd

Cyflwyno asesiad archwiliad dwfn o un o amcanion llesiant, sef Hinsawdd.

08/24    Adroddiad ar Waith Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar Linell Sylfaen Carbon a gwaith Partneriaeth

Cyflwyno adolygiad i’r Aelodau o’r gwaith y mae’r Awdurdod wedi’i wneud ar baratoi adroddiad ar Linell Sylfaen Carbon ar gyfer y Parc Cenedlaethol, a gweithio gyda Phartneriaethau yn lleol ac yn genedlaethol i gyrraedd sero net.

09/24    Isadeiledd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar Wefru Cerbydau Trydan

Cyflwyno adolygiad i’r Aelodau o Brosiect yr Awdurdod ar Isadeiledd Gwefru Cerbydau Trydan.

10/24    Adroddiad ar Berfformiad Amcanion Llesiant

Cyflwyno adroddiad ar y camau ymlaen yn erbyn y dangosyddion / prosiectau / rhaglenni gwaith blaenoriaeth am y cyfnod yn diweddu 31 Gorffennaf 2024.

 

NODIR: Rhaid i unrhyw Aelod sydd wedi derbyn rhodd neu letygarwch roi gwybod am hynny i’r tîm Gwasanaethau Democrataidd gynted ag y bo modd ar ôl y digwyddiad er mwyn gallu ei gofrestru yn y Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch.

Dilynwch y Llif Byw o'r Rhith Gyfarfod