Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 12/05/21
10am, Rhith-Gyfarfod
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2021.
4. Derbyn cyflwyniad gan y Swyddog Diogelu Data a benodwyd yn ddiweddar sy’n amlinellu ei blaenoriaethau cychwynnol.
5. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
07/21 Cynllun Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru 2021
Derbyn y Cynllun Archwilio ar gyfer 2021 oddi wrth Swyddfa Archwilio Cymru.
08/21 Adroddiad ar y camau a gymerwyd i reoli’r Clefyd Coed Ynn.
Mae’r adroddiad yn amlinellu’r camau a gymerwyd gan y Tîm Rheoli Cefn Gwlad i reoli’r coed sy’n dioddef o’r Clefyd Coed Ynn ar ystâd yr Awdurdod.
09/21 Adroddiad Perfformiad am y cyfnod oedd yn diweddu ar 31 Mawrth 2021
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried perfformiad yn erbyn yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol am y cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021.
10/21 Diweddariad Iechyd a Diogelwch
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad cryno ar ddigwyddiadau Iechyd a Diogelwch Ionawr – Mawrth 2021 a materion eraill IaD all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.
11/21 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.
12/21 Adroddiad Archwiliad Mewnol 2020/21
Mae’r adroddiad yn cyflwyno ffrwyth y gwaith a wnaed ar Floc 2 cynllun archwilio gweithredol 2020/21 a gymeradwywyd eisoes gan Bwyllgor Adolygu Gwasanaethau Archwilio a Chorfforaethol yr Awdurdod.
6. Derbyn diweddariad llafar gan y Rheolwr Cyllid ar berfformiad y gyllideb am y 12 mis hyd at fis Mawrth 2021
7. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraffau 14 a 18 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
8. Ystyried yr adroddiad canlynol:
13/21 Seibergadernid
Gofynnir i’r Aelodau ystyried dau adroddiad sy’n ymwneud â Seibergadernid. Y cyntaf yw adroddiad cyffredinol gan Archwilio Cymru ar “Seibergadernid yn y Sector Cyhoeddus” a’r ail yw adolygiad o’n trefniadau ar Seibergadernid gan ein Harchwilwyr Mewnol TIAA.
9. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.