Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 12/07/23
10am, Rhith-Gyfarfod
1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
Enwebiad derbyniedig: Dr R Heath-Davies
2. Ethol Dirprwy Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
Enwebiad derbyniedig: Cynghorydd S Alderman
3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
4. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
5. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mai 2023
6. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
7. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
15/23 Cynllun Archwilio: Archwilio Cymru 2023
Derbyn y Cynllun Archwilio ar gyfer 2023 oddi wrth Archwilio Cymru.
16/23 Adroddiad Archwiliad Mewnol 2022/23
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r adroddiadau sy’n weddill ar yr adolygiad TGCh o Adfer ar ôl Trychineb a’r Adroddiad Blynyddol terfynol 2022/23
17/23 Strategaeth Ddrafft ar gyfer Archwilio Mewnol 23/24-25/26
Gofynnir i’r Aelodau nodi’r Strategaeth Ddrafft ar gyfer Archwilio Mewnol oddi wrth Archwilwyr Mewnol yr Awdurdod ASTARI.
18/23 Syndrom Dirgryniad Llaw Braich (HAVS) – Adroddiad Diweddaru
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar waith yr Awdurdod i wella’r mesurau ar reoli Dirgryniad Llaw Braich gyda ffocws penodol ar waith y Tîm Rheoli Cefn Gwlad.
19/23 Adroddiad Perfformiad am y cyfnod oedd yn diweddu ar 31 Mai 2023
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried perfformiad yn erbyn yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol am y cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Mai 2023
20/23 Diweddariad Iechyd a Diogelwch
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad cryno ar ddigwyddiadau Iechyd a Diogelwch Mehefin 2022 – Mai 2023 a materion eraill IaD all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.
21/23 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.
22/23 Datganiad Drafft o Gyfrifon
Gofynnir i’r Aelodau dderbyn y Datganiad Drafft o Gyfrifon 2022/23.
8. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.