Pwyllgor Rheoli Datblygu 04/09/2024

Dyddiad y Cyfarfod : 04/09/2024

10am, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1.Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2024

4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5. Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:

NP/24/0198/FUL – Adeiladu a newid defnydd yn ganolfan antur awyr agored, a stiwdio gelf a lle storio uwchben, a gwaith cysylltiedig – The Old Bus Depot, Trewyddel, Aberteifi, Sir Benfro, SA43 3BW

Argymhelliad y Swyddog: Dirprwyo Caniatâd

NP/23/0458/RES – Cymeradwyo manylion y fynedfa, golwg y lle, tirweddu, cynllun, a graddfa sy’n gysylltiedig â NP/19/0361/OUT – Brynhir, Old Narberth Road, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 8TT

Argymhelliad y Swyddog: Dirprwyo Caniatâd

NP/24/0349/FUL – Gwelliannau i’r ffordd ac i’r amgylchedd, gan gynnwys darparu llefydd parcio newydd, newid llinell Ffordd Llanrhian, ailwynebu’r ardaloedd parcio presennol, creu troedffyrdd dynodedig a chroesfannau heb eu rheoli, mesurau arafu traffig ar y ffordd gerbydau, a seilwaith draenio cysylltiedig a gwelliannau tirweddu – Porthgain Harbour, Porthgain, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 5BN

Argymhelliad y Swyddog: Caniatâd

NP/24/0092/FUL – Gosod gored ar ogwydd, rhodfa a llwybr pren – Tir yng Castlemartin Corse, Adjacent to Starmans Hall, Castellmartin, Penfro, Sir Benfro, SA71 5HW

Argymhelliad y Swyddog: Caniatâd

6. Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar Apeliadau. 

      

NODIADAU:

A. Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B. Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol. (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

 1. Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

 2. Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

 3. Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

 4. Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

 5. Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi:

(a) Cymru’r Dyfodol – Cynllun Cenedlaethol 2040. Dyma Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru ac fe’i mabwysiadwyd ar 24 Chwefror 2021.

(b)  Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

(c)  Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

(d) Canllawiau Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol sydd gyda’i gilydd yn ffurfio Canllawiau Polisi Cynllunio Llywodraeth Cymru.

6. Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

 

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk

 

NODIR:    Rhaid i unrhyw Aelod sydd wedi derbyn rhodd neu letygarwch roi gwybod am hynny i’r tîm Gwasanaethau Democrataidd gynted ag y bo modd ar ôl y digwyddiad er mwyn gallu ei gofrestru yn y Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch.