Pwyllgor Rheoli Datblygu 20/07/2022
10am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:
a) 22 Mehefin 2022; a
4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.
5. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:
a) NP/21/0577/FUL– Datblygiad preswyl o 11 ty deulawr (gan gynnwys 2 dy fforddiadwy) – tir ger Cefn Gallod, Trefin, Hwlffordd, Sir Benfro
Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATÂD
b) NP/21/0614/FUL – Rhannu’r llain bresennol yn ddau i adeiladu ty newydd 1 a ½ llawr 4 ystafell wely, a gwaith allanol cysylltiedig a rhannu mynedfa i gerbydau – Oratava, Maenorbyr SA70 7TE
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD
c) NP/21/0673/S73 – Codi crib y to 1.9m, copa gwydrog i dalcen gorllewinol y ty a balconi cilfachog ar lefel y trydydd llawr, ffenestri to, a gwaith cysylltiedig – Christkindl, High Street, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9EJ
Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD
d) NP/21/0673/S73 – Amrywio amodau rhif 2 a 4 o NP/17/0315/FUL – Diwygio’r cynlluniau a gymeradwywyd a’r droedffordd a’r mesurau arafu traffig Tir ger Walton Road, Broad Haven, Hwlfordd, Sir Benfro, SA62 3JX
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD
e) NP/22/0085/FUL – Lle byw ychwanegol ar gyfer y prif dy – Tyrardd, Trewyddel, Aberteifi, Sir Benfro, SA43 3BH
Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD
f) NP/22/0104/FUL – Newidiadau ac estyniadau i’r dafarn gan gynnwys darparu 3 uned gwely a brecwast, newidiadau mewnol i’r llety rheolwr ar y llawr cyntaf ac addasu’r storfa allanol bresennol yn weithdy cynnal a chadw beiciau – Milton Brewery, Milton, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 8PH
Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD
6. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar Apeliadau.
NODIADAU:
A. Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.
B. Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol. (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):
1. Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.
2. Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.
3. Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.
4. Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.
5. Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi Anffurfiol :
b. Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.
6. Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.
Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn: 01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk