Pwyllogor Adolygu Gweithredol 18/12/2024
10:00am, Rhith-gyfarfod
1.Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Medi 2024
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5. Ystyried yr adroddiad canlynol:
11/24 Archwiliad Dwfn/ Hunanasesiad o’r Amcan Llesiant: Gwarchodaeth
Cyflwyno asesiad archwiliad dwfn o un o amcanion llesiant, sef Gwarchodaeth.
Rhoi adolygiad i’r Aelodau o gynllun Cysylltu’r Arfordir ar reoli tir, a’r modd y mae’r cynllun hwn yn galluogi adfer byd natur a chydweithio â thirfeddianwyr ym mharth arfordirol y Parc Cenedlaethol.
13/24 Diweddariad Partneriaeth Natur Sir Benfro
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y modd y mae Partneriaeth Natur Sir Benfro yn gweithredu. Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu blwyddyn ariannol 2023/24.
14/24 Adroddiad ar Berfformiad Amcanion Llesiant
Cyflwyno adroddiad ar y camau ymlaen yn erbyn y dangosyddion / prosiectau / rhaglenni gwaith blaenoriaeth am y cyfnod yn diweddu 31 Hydref 2024.