Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy
Rhith-Gyfarfod 10am
1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2020.
4. Trafod adroddiad Cyfarwyddwr Cynllunio fel Swyddog y Gronfa Datblygu Cynaliadwy
5. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinir ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
6. Trafod y ceisiadau ar y tudalennau canlynol:
SDF/2020/7: Remakery CIC
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Remakery Sir Benfro wedi bod yn treialu prosiect, a ariennir gan grant LEADER, i brofi ffyrdd arloesol o redeg sefydliad ‘Remakery’ a rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau. Profwyd nifer o weithgareddau yng ngogledd Sir Benfro i ddarganfod pa ddulliau fyddai’n ymarferol, yn creu incwm, o fudd i’r gymuned, ac yn diogelu’r amgylchedd yn y dyfodol.
O’r wybodaeth a ddysgwyd yn ystod prosiect peilot LEADER, maent bellach yn ceisio cyllid i greu a datblygu model busnes newydd fydd yn dangos sut i gynnal menter gymdeithasol gynaliadwy.
Bydd y cyllid yn talu am gynhyrchu cynlluniau busnes, cyllido a marchnata a hefyd yn talu i reolwyr y prosiect gyflawni’r prosiect a llywio’r busnes i wneud elw. Bydd y cynlluniau hyn yn pennu’r meincnod i brofi busnes REMAKERY hyfyw ar gyfer Sir Benfro. Hefyd gellid cyflwyno model prosiect Caffi Atgyweirio ledled y sir fyddai’n cynnwys cefnogi ei gilydd i sefydlu ‘caffi atgyweirio’. Y ddau Gyfarwyddwr sefydlu fydd yn rheoli’r prosiect.