Pwyllgor Rheoli Datblygu
Mae'r Pwyllgor Rheoli Datblygu yn cwrdd bob chwech wythnos i benderfynu ar geisiadau cynllunio ac i ddelio gyda phob mater sy'n ymwneud â dynodi a gweinyddu Ardaloedd Cadwraeth. Mae'r Pwyllgor yn cynnwys pob Aelod o'r Awdurdod.
I weld yr agenda a’r ceisiadau sydd wedi cael eu hystyried mewn cyfarfodydd diweddar, ewch i’r dudalen Papurau Pwyllgorau.
Mae gan aelodau’r cyhoedd yr hawl i siarad ar unrhyw gais cynllunio sydd gerbron y Pwyllgor Rheoli Datblygu, tra’u bod yn rhoi’r cyfnod o rybudd sydd ei angen.
Os hoffech chi siarad ar gais cynllunio, mae yna wybodaeth bellach yn y dogfennau sydd wedi eu rhestru isod.