Dyma rai cwestiynau a ofynnir amlaf a dderbyniwn gan bobl sy'n dymuno gweithio i'r Awdurdod Parc Cenedlaethol.
C. Ymhle y gallaf gael gwybodaeth am unrhyw swyddi sydd ar gael?
A. Mae gwybodaeth am ein swyddi gwag ar gael ar ein gwefan, ar dudalennau’r cyfryngau cymdeithasol ac yn y Ganolfan Byd Gwaith, ynghyd ag unrhyw gyfryngau arbenigol. Gallwch gofrestru ar gyfer ‘rhybudd swyddi’ ar ein tudalen swyddi gwag cyfredol.
C. Sut mae gwybod a yw’n werth i mi wneud cais?
A. Bydd y disgrifiad swydd yn egluro beth fydd disgwyl i’r person allu gwneud yn y swydd.
Bydd y fanyleb person yn dweud wrthych am y sgiliau, y wybodaeth a’r profiad fydd eu hangen i allu cyflawni’r swydd. Bydd rhai yn hanfodol a rhai yn ddymunol.
Yn eich cais bydd angen i chi nodi sut ydych yn gweddu o leiaf i’r meini prawf hanfodol er mwyn cael eich ystyried. Mae ein swyddi yn aml yn denu cryn ddiddordeb a byddwn yn aml yn derbyn ceisiadau gan bobl sydd hefyd yn gweddu i’r meini prawf dymunol.
Mae’n bwysig iawn eich bod yn dangos sut mae eich profiad yn y gorffennol wedi eich paratoi ar gyfer y meini prawf hanfodol, ac os yn bosibl, y meini prawf dymunol.
C. A allaf anfon fy CV atoch?
A. Peidiwch ag anfon ceisiadau/CV ar hap gan na fedrwn gadw’r manylion hyn ar ffeil. Byddwn ond yn ystyried ceisiadau a anfonir atom ar gyfer swyddi gwag penodol.
C. Mae gennyf anabledd â gofynion penodol.
A. Mae ein system a’n gwybodaeth ar-lein wedi’u dylunio i fod yn hygyrch, fodd bynnag cysylltwch â ni ar 01646 624800 os allwn fod o gymorth gyda threfniadau eraill.
C. Sut mae gwneud cais?
A. Pan fydd swydd wag gyfredol wedi’i rhestru sydd o ddiddordeb i chi, gallwch wneud cais ar-lein.
C. A allaf ddefnyddio’r un cais ar gyfer swydd arall?
A. Mae pob swydd yn wahanol gyda set wahanol o gwestiynau, felly a fyddech gystal â gwneud cais yn benodol ar gyfer pob swydd wag. Mae gwneud cais ar-lein yn drefn gweddol gyflym a syml.
C. Sut fyddaf yn gwybod beth sy’n digwydd i’m cais?
A. Bydd eich cais yn derbyn cydnabyddiaeth yn ddi-oed, a bydd e-byst dilynol ar y camau ar ôl y dyddiad cau, fel arfer cyn pen 2-3 wythnos.
C. Beth fyddwch yn ei wneud â’r wybodaeth bersonol y gofynnwyd amdani? (Monitro Cydraddoldeb)
A. Yn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-20, mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i waredu rhwystrau y gellir eu clustnodi i bobl sy’n defnyddio ei wasanaethau (gan gynnwys cyflogaeth) ac i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei weithlu.
Byddwn yn croesawu eich cydweithrediad yn llenwi pob cwestiwn ar fonitro cydraddoldeb yn ystod y broses o wneud cais ar-lein. Mae’r wybodaeth hon yn gymorth i ni fonitro mynediad i gyflogaeth, clustnodi rhwystrau, ac yn y pendraw i recriwtio pobl dalentog ac amrywiol. Po fwyaf yr ymgeiswyr sy’n rhoi data, gorau oll fydd ein dadansoddiad.
Mae’r wybodaeth a roddwch yn cael ei storio yn ddienw, yn ddiogel ac yn gyfrinachol. Defnyddir y wybodaeth at ddibenion ystadegol a dadansoddi yn unig ac nid yw’n cael ei ddefnyddio yn ystod y broses dewis.
C. Rwyf wedi colli’r dyddiad cau – a allaf ddal i wneud cais?
A. Yn anffodus, ni fedrwch wneud cais ar ôl y dyddiad cau.
Cysylltu â Ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill e-bostiwch ni; efallai y byddwn yn eu hychwanegu at y dudalen hon.