Yma ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, rydyn ni’n deall bod lleoliadau profiad gwaith yn rhan bwysig o ddatblygiad gyrfa a datblygiad personol.
Rydyn ni’n credu y dylai profiad gwaith alluogi myfyrwyr i:
- ddysgu a defnyddio sgiliau newydd
- rhyngweithio ag oedolion yn y gweithle
- archwilio dewisiadau gyrfa
- cael cyflwyniad cadarnhaol i fyd gwaith
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn awyddus i ddarparu cyfleoedd i fyfyrwyr gael cipolwg ar ein gwaith. Os ydych chi’n helpu gyda phrosiectau ym Mhencadlys Arfordir Penfro neu ar Lwybr yr Arfordir gyda’r Wardeniaid, dylai eich cyfnod gyda ni gynnig digon o brofiadau gwerthfawr i chi a fydd hefyd yn edrych yn dda ar eich CV.
Profiad Gwaith
Ar hyn o bryd rydyn ni’n cynnig lleoliadau profiad gwaith i fyfyrwyr ym Mlynyddoedd 10-13. Os hoffech chi wneud cais am leoliad profiad gwaith, llenwch y ffurflen gais a’i dychwelyd gyda’ch CV at ein tim Adnoddau Dynol. Os ydych chi’n addas, byddwch yn cael eich gwahodd i drafod eich diddordeb mewn gweithio ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac archwilio dewisiadau ar gyfer rhaglen profiad gwaith sydd wedi’i theilwra yn ôl eich diddordebau.
Mae ceisiadau am brofiad gwaith yn dod ar sawl ffurf wahanol, a bydd adrannau’n gwneud eu gorau glas i ddarparu lleoliadau priodol ar gyfer pob unigolyn pan fo’n bosibl.
Lleoliadau Myfyrwyr
Os ydych chi mewn addysg bellach neu addysg uwch a’ch bod yn chwilio am leoliadau ymchwil neu os hoffech chi ymgymryd â phrosiect ymchwil, llenwch y ffurflen gais berthnasol a’i dychwelyd gyda’ch CV at ein tim Adnoddau Dynol.
Rhaid i chi amlinellu’r math o leoliad y mae gennych ddiddordeb ynddo a hyd y lleoliad yr hoffech ei gael. Bydd pob cais wedyn yn cael ei anfon at y rheolwr priodol i benderfynu a oes modd darparu ar gyfer lleoliad gwaith.
* Sylwch, ni allwn ddarparu cludiant na llety yn yr ardal ac nid ydym yn gallu cynnig lleoliadau gyda thâl.