Taith Castell Unigryw

Dydd Gwener 5 & 12 Gorffennaf a 9, 23 & 30 Awst am 10.30am

Mwynhewch daith hynod ddiddorol, unigryw o amgylch y Castell gyda’n tywysydd gwybodus.

Oedolyn £11, Consesiwn £10, Plant £9, Teulu (2+2) £35

Ni ellir ad-dalu tocynnau, nifer cyfyngedig o leoedd, cynghorir archebu lle.

Archebwch Yma!

 

Taith Dywys: Cyfrinachau Adeiladu Castell

A ruined stone castle next to a river viewed from the air

11 Gorffennaf am 2.3opm

Dysgwch rai o gyfrinachau adeiladu cestyll ar y daith rad ac am ddim hon. Darganfyddwch dechnegau adeiladu sydd wedi’u hen anghofio, a nodweddion pensaernïol cudd.

Wedi’i gynnwys AM DDIM gyda ffi mynediad arferol.

 

Theatr Awyr Agored: Little Women

Dydd Mawrth 16 Gorffennaf, gatiau ar agor 5.30pm, Sioe yn dechrau 6.30pm

Mae’n bleser gan Gwmni Theatr Chapterhouse gyflwyno stori hyfryd dyfod i oed Louisa May Alcott yr haf hwn. Dewch i gwrdd â Jo March gyda’i chwiorydd Meg, Amy a Beth. Mae pob chwaer yn benderfynol o ddilyn ei llwybr ei hun mewn bywyd, ond er y gall eu breuddwydion fod yn wahanol, mae eu cysylltiadau teuluol mor driw ag erioed. Stori ddyrchafol a chalonogol am daith y chwiorydd March i fyd oedolion a’r holl dreialon a buddugoliaethau a ddaw yn ei sgil, mae Little Women yn cynnwys gwisgoedd dilys a sgôr gerddorol hyfryd.

Argymhellir oedran 8+

Dewch â charthen neu gadair â chefn isel, croeso i bicnic, diodydd poeth a hufen iâ ar gael.

ARCHEBU YN HANFODOL:Archebwch Yma!

Oedolyn £20.00, Gostyngiad (65+ neu fyfyriwr) £14.00, Plentyn (3 – 16) £12.00, Teulu £55 (2 + 2)

Ni ellir ad-dalu tocynnau a bydd y perfformiad yn mynd yn ei flaen mewn tywydd gwlyb. Gwisgwch ddillad cynnes/glaw, dewch â thortsh.

 

Plant sy’n Rheoli’r Castell!

Dydd Iau 25 Gorffennaf, 10am – 3pm

Diwrnod i blant bach gymryd drosodd y Castell! Dewch â’ch oedolyn gyda chi am ddiwrnod llawn gweithgareddau i’r teulu cyfan, yn canolbwyntio ar blant dan 6 oed ond yn hwyl i bob oed. Mae ffioedd mynediad arferol yn berthnasol ynghyd â thâl bach mewn ARIAN PAROD ar gyfer rhai gweithgareddau.

Gweithgareddau trwy gydol y dydd
  • Môr-ladron Gwych 10am – 3pm Gemau gwallgof, anhrefn rheoledig a naws yr ŵyl!
  • Rhowch gynnig ar Saethyddiaeth* 10.30am – 3.30pm
  • Sw anwesu
  • Ffair hwyl a chastell neidio*
  • Peintio wynebau 10am-12pm*
  • Gweithdy gwneud printiau botanegol* a lliwio botanegol*
  • Crefftau Creaduriaid
  • Cychod model ar y Pwll Melin
  • Chwarae Brwnt
  • Teganau Traddodiadol
  • Gemau Carnifal
  • Swigod anferth
  • Rhowch gynnig ar archaeoleg
Sesiynau gweithgaredd:
  • 10.30am Wake up and Wiggle, sesiwn ddawns hwyliog i’ch paratoi ar gyfer y diwrnod!
  • 11am Morwynion a Dreigiau, dewch yn archwiliwr bywyd gwyllt gyda’r Parcmon Angharad**
  • 12pm Chwarae Parasiwt, hwyl egni uchel
  • 1pm Morwynion a Dreigiau, dewch yn archwiliwr bywyd gwyllt gyda’r Parcmon Angharad**
  • 2pm Môr-ladron Ahoy! Dwli môr-ladron gyda’r Capten Jan Sparrow
  • 3pm Hela’r Allwedd, mae’r trysor yn aros…

* Tâl ychwanegol.

**Mae archebu lle yn hanfodol.

 

Taith Ysbrydion

Ghost Walk

Dydd Iau 18 Gorffennaf am 8pm, 1 Awst am 7.45pm, 8 Awst am 7.30pm, 22 Awst am 7pm

Dysgwch am ochr dywyllach bywyd y Castell wrth i chi ymuno â thaith gerdded ysbrydion. Bydd ein tywysydd gwybodus yn adrodd straeon am yr ysbrydion, yr ymddangosiadau a’r digwyddiadau a brofwyd yn y Castell.

£8.50 Oedolyn, £6.50 Plentyn (4-16)

ARCHEBU YN HANFODOL: Archebwch Yma!

Ni ellir ad-dalu’r tocynnau. Gwisgwch ddillad cynnes/glaw, dewch â thortsh. Cyrhaeddwch 10 munud cyn amser cychwyn.

 

Morynion mentrus a Marchogion dewr

Dydd Sadwrn 20 Gorffennaf – Dydd Llun 2 Medi

Anaml y bydd merched sy’n ymddwyn yn dda yn creu hanes! Darganfyddwch rai merched beiddgar hanesyddol yn ogystal â’u cymheiriaid gwrywaidd di-ofn! Mae ein helfa drysor newydd sbon yn mynd â chi ar daith o amgylch y Castell gan ddod o hyd i’r cliwiau i hawlio’ch gwobr!

Cymerwch ran gan ddefnyddio ffôn clyfar.

£2 y plentyn ynghyd â ffioedd mynediad arferol.

 

Dyddiau o Hwyl Canoloesol!

Bob dydd Sul i ddydd Iau rhwng 21 Gorffennaf a 29 Awst
(ac eithrio 25 Gorffennaf, 25 a 26 Awst)

Mwynhewch ddiwrnod llawn hwyl canoloesol i bob oed. Yn ogystal ag arddangos eich sgiliau fel Marchog yn ein llwybr prawf AM DDIM, mae llwyth o weithgareddau eraill i sgweieriaid ifanc eu mwynhau!

Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn ar gyfer pob gweithgaredd.

10.30am Hanesion Hyll

Man in pillory

Darganfyddwch yr holl bethau na chawsoch eu dysgu erioed yn y dosbarth hanes! Straeon gwaedlyd, chwedlau ofnadwy ac adroddiadau arswydus am fywyd y castell mewn sgwrs hwyliog, ryngweithiol ar gyfer y genhedlaeth iau. Wedi’i gynnwys AM DDIM gyda mynediad arferol.

 

11am Ysgol Farchogion

Ymunwch â’n Hysgol Farchogion hwyliog AM DDIM; dysgwch sgiliau ymladd cleddyf a sut i ddychryn y gelyn! Os byddwch yn llwyddiannus cewch eich urddo’n farchog fel amddiffynnwr Castell Caeriw. Wedi’i gynnwys AM DDIM gyda thâl mynediad arferol.

 

11.30am – 3pm Saethyddiaeth

Hogwch eich sgiliau bwa gyda sesiwn Saethyddiaeth! Rhaid i blant gael eu goruchwylio. Codir tâl ychwanegol am saethyddiaeth, yn ogystal â thaliadau mynediad arferol. Talwch arian parod i’r saethwyr, neu dalu gyda cherdyn yn Siop y Castell.

 

3pm Dewch o hyd i’r Allwedd!

Treasure chest overflowing with gold coins

Mae pedair allwedd wedi eu cuddio o amgylch y Castell…ond dim ond un o’r allweddi sy’n datgloi’r gist drysor! A fyddwch chi’n dod o hyd i’r allwedd lwcus i agor y gist a datgelu’ch gwobr?

Dewch i gwrdd â’ch tywysydd yng Nghwrt y Castell am 3pm cyn iddynt eich anfon i chwilio am yr allweddi coll. Pob lwc!

Wedi’i gynnwys AM DDIM gyda thâl mynediad arferol.

 

Academi Hud yr Ysgol Dewiniaid a Gwrachod

A magical wizard

Gorffennaf 26, 27, Awst 2, 3, 9,10,16,17, 23, 30, 31 am 1pm

Paratowch ar gyfer profiad hudolus fel erioed o’r blaen wrth i The Storymaster’s Tales ddatgelu ei sioe syfrdanol newydd Ysgol Dewiniaid a Gwrachod yng Nghastell Caeriw!

Paratowch eich hunain ar gyfer yr ‘Academi Hud’ syfrdanol, sbloet hud i’r teulu sydd nid yn unig yn diddanu ond hefyd yn datgelu cyfrinachau rhyfeddodau hudolus. Wedi’i chyflwyno gan Aelod nodedig o’r Cylch Hud, y sioe hon yw eich tocyn i fyd sy’n llawn cymeriadau bywiog, dirgelion cyfareddol, a rhyfeddodau syfrdanol.

Ymunwch â ni am daith 45 munud i fyd rhyfeddol, lle byddwch nid yn unig yn gweld yr hud a lledrith ond hefyd yn dysgu rhai triciau syfrdanol i greu argraff ar eich teulu a’ch ffrindiau wedyn. Yn berffaith ar gyfer rhai anturus o 6 oed i oedolion, bydd y sioe ryngweithiol hon i’w gweld yn lleoliad hudolus y Neuadd Leiaf. Sylwch nad oes gan y lleoliad fynediad i gadeiriau olwyn.

Argymhellir yn gryf eich bod yn archebu lle, felly sicrhewch eich lle nawr am £6 y person yn unig. Archebwch yma!. Peidiwch â cholli’r cyfle bythgofiadwy hwn i fod yn rhan o’r swyngyfaredd!

Mae hwn yn weithgaredd ychwanegol: nodwch fod ffioedd mynediad arferol y Castell hefyd yn berthnasol i bob oedolyn a phlentyn a rhaid eu talu ar y diwrnod.

 

Paentiwch eich crochenwaith eich hun gyda Hwyl Kidz

Dydd Iau 1 Awst, 11am – 3pm

Ymunwch â ni am antur liwgar yn ein digwyddiad Paentiwch Eich Crochenwaith Eich Hun, a gynhelir gan KidzFun! Rhyddhewch eich artist mewnol a chreu campweithiau un-o-fath. Dewiswch o wahanol ddyluniadau cyffrous a gadewch i’ch creadigrwydd redeg yn wyllt. Gyda phrisiau’n dechrau at dim ond £4, mae rhywbeth bawb!

Ond nid dyna’r cyfan! Ychwanegwch ychydig o ddisgleirdeb i’ch diwrnod gyda Thatŵ Glitter gwych. Perffaith ar gyfer pob oed, bydd y dyluniadau disglair hyn yn gwneud ichi ddisgleirio!

 

Theatr Awyr Agored: Peter Pan

Dydd Mawrth 6 Awst, gatiau ar agor 4.45pm, sioe yn dechrau 5.30pm

Yn dilyn llwyddiant “The Wizard of Oz,” mae Immersion Theatre, a enwebwyd am nifer o wobrau, yn eich gwahodd i hedfan i Neverland wrth iddynt ddod â’u hegni nodweddiadol i’w sioe gerdd fwyaf hudol hyd yma, PETER PAN.

Paratowch i feddwl am bethau hapus a hedfan yn uchel wrth i Peter ddireidus gychwyn ar antur fawr, gan gyflwyno’r plant Darling i’r bechgyn coll, Tinkerbell ddigywilydd, Smee ddoniol, a llu o gymeriadau cyffrous eraill, cyn wynebu’r dihiryn mwyaf dychrynllyd ohonynt i gyd, yr enwog Capten Hook!

Yn llawn cerddoriaeth fachog, toreth o ryngweithio â’r gynulleidfa, a sgript llawn chwerthin, mae’r sioe gerdd ddoniol a chyffrous hon am y bachgen na thyfodd i fyny erioed yn argoeli diddanu pob aelod o’r teulu o’r dechrau i’r diwedd… Fe fyddwch chi wedi gwirioni!

Yn addas ar gyfer oedran 4+

Hyd y perfformiad: Tua 100 munud gan gynnwys egwyl.

Dewch â charthen neu gadair â chefn isel, croeso i bicnic, diodydd poeth a hufen iâ ar gael.

ARCHEBU YN HANFODOL: Archebwch Yma!

Oedolyn £16.00, Gostyngiad (65+ neu fyfyriwr) £14.00, Plentyn (3 – 16) £12.00, Teulu £50 (2 + 2)

Ni ellir ad-dalu tocynnau a bydd y perfformiad yn mynd yn ei flaen mewn tywydd gwlyb. Gwisgwch ddillad cynnes/glaw, dewch â thortsh.

 

Theatr Awyr Agored:  Beauty and the Beast

Beauty & the beast banner

Dydd Mercher 21 Awst, drysau ar agor 4.45pm, sioe yn dechrau am 5.30pm

Ymunwch â Chwmni Theatr Chapterhouse yr haf hwn i weld fersiwn newydd sbon o’r stori dylwyth teg glasurol hon. Pan gaiff tywysog trahaus ei felltithio i fyw fel bwystfil erchyll, ei unig obaith yw merch ifanc garedig yn chwilio am rosyn. Wedi’i gyflwyno gyda cherddoriaeth wreiddiol fywiog a hiwmor pefriol mae’r addasiad newydd syfrdanol hwn o Beauty and the Beast yn berffaith i’r teulu cyfan.

Dewch â charthen neu gadair â chefn isel. Diodydd poeth a hufen iâ ar gael.

ARCHEBU YN HANFODOL: Archebwch Yma!

Oedolyn £20.00, Gostyngiad (65+ neu fyfyriwr) £14.00, Plentyn (3 – 16) £12.00, Teulu £55 (2 + 2)

Ni ellir ad-dalu tocynnau a bydd y perfformiad yn mynd yn ei flaen mewn tywydd gwlyb. Gwisgwch ddillad cynnes/glaw, dewch â thortsh.

 

Penwythnos Arfau a Rhyfela

Reenacators in chainmail and helmets firing arrows from bows

Dydd Sadwrn 24 – Dydd Llun 26 Awst, 10am – 4pm

Ymunwch â phenwythnos gŵyl banc llawn cyffro o hanes byw, arfau a rhyfela, wrth i Historia Normannis gludo Castell Caeriw yn ôl i’r 12fed ganrif! Yn cynnwys gwersyll Canoloesol sy’n arddangos sgiliau traddodiadol, arddangosiadau ymladd ac arfau syfrdanol a Saethyddiaeth.

Y penwythnos yn cael ei gynnwys AM DDIM gyda thâl mynediad arferol i’r Castell. Tâl bychan am rai gweithgareddau.

11am Hyfforddi’r Milisia

10.30am–3.30pm Rhoi tro ar Saethyddiaeth

12pm Sioe Ffasiwn Ganoloesol

1pm Ymarfogi’r Marchog: golwg cra ar yr arfau ac arfwisg a wisgwyd gan y brwydwyr gorau yng nghymdeithas Normanaidd hwyr

2pm Llys Sirol: arddangosfa o gyfraith a barn ganoloesol

3.30pm Y Frwydr Fawr