TYWYN
Goleuadau Nadolig yng Nghastell Caeriw
Bob Dydd Gwener – Dydd Sul o 1 Rhagfyr – 17 Rhagfyr, 4.30pm – 7.30pm
Darganfyddwch Gastell Caeriw a’r Ardd Furiog wedi’u haddurno ar gyfer y Nadolig, MYNEDIAD AM DDIM!
Bydd yr arddangosfeydd goleuadau cyfareddol yn creu gardd hudolus ar gyfer y teulu cyfan. Tywyn – gyda gemau a gweithgareddau newydd ‘tywynnu yn y tywyllwch’, Llwybr Ceirw hwyliog*, Groto Siôn Corn** ac Ystafell De Nest yn gweini eich holl ffefrynnau llawen.
Bydd yr hud yn parhau wrth ichi ddilyn y goleuadau pefriol i brofi’r Castell fel na wnaethoch erioed o’r blaen, gydag arddangosfeydd newydd llawn awyrgylch ar gyfer 2023, mae hwn yn brofiad na ellir ei golli!
Cerddoriaeth fyw bob penwythnos:
Dydd Sul 3 Rhagfyr, 5pm -6pm – Côr Cockles & Mussels
Dydd Sadwrn 9 Rhagfyr, 4.45pm – 5.45pm – Côr Quaynotes
Dydd Gwener 15 Rhagfyr, 5pm – 7pm – Côr Cleddau Flute
*Mae’r Llwybr Ceirw yn costio £2 y plentyn ac yn cynnwys gwobr.
**Rhaid archebu ymlaen llaw, codir tâl.
Cwrdd â Siôn Corn yng Nghastell Nghaeriw
Ar y penwythnosau o 2 i 17 Rhagfyr
Bydd Siôn Corn yn ei Groto hudolus yn yr Ardd Furiog o 11am – 5pm.
Codir tâl bychan i gwrdd â Siôn Corn a derbyn anrheg. Rhaid archebu ymlaen llaw.
Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn, ni chodir tâl ar oedolion sy’n dod gyda nhw.
Ni ellir ad-dalu tocynnau ac nid ydynt yn cynnwys mynediad yn ystod y dydd i’r Castell.
Rhaid archebu ymlaen llaw: Archebwch Yma