Llwybr Trysor Robin Hood
Dydd Sadwrn 15 Chwefror – Dydd Sul 2 Mawrth, 10am – 3pm

Dalier sylw, ddihirod! Mae angen eich help chi ar Robin Hood i ddod o hyd i’r allweddi sydd wedi’u cuddio drwy’r castell cyn i Siryf drwg Nottingham eu canfod yn gyntaf! Ymunwch â’r helfa, ac mae gwobr yn aros amdanoch os byddwch yn ennill!

Cymrwch ran gan ddefnyddio ffôn clyfar

£2 y plentyn, yn ogystal â’r pris mynediad arferol.

 

 

Criw y Forwyn Farian!
Chwefror 16, 19, 23, 26 yn 11am, 12pm a 2pm

Mae’r Forwyn Farian yn ymgyrchu i ganfod y bechgyn a’r merched dewraf ar gyfer ei chriw! Byddwch yn barod i gael eich herio wrth i chi ddysgu hanfodion ymladd cleddyfau a saethyddiaeth. Hefyd, bydd yn eich dysgu sut i guddio yn y gwyllt, gan ddibynnu ar ddim ond eich synnwyr i oroesi! Ydych chi’n barod i ymuno â’i hantur?

Mae’r sesiynau’n para tua 30 munud.

Dim angen archebu lle. Codir tâl mynediad arferol.

 

 

Cwestau Storymaster: Castell Antur
Chwefror24, 25, 27 and 28 yn 1pm
Y Pasg: Ebrill 9, 10, 11 am 12pm 14, 16, 17, 23, 24, 25 am 1pm

Ymunwch ag antur ffantasi ryngweithiol sy’n cynnwys anturiaethau newydd sbon a grëwyd a’i perfformiwyd gan yr awdur a’r dylunydd gemau trochi enwog, Oliver McNeil a ysgrifennodd The Storymaster’s Tales. Gyda llais Tom Baker (Doctor Who), mae’r sioe ffantasi deuluol wych hon yn cynnwys cyfranogiad gan y gynulleidfa a fydd yn newid cwrs a chanlyniad y cwestau.

Addas ar gyfer plant 6 oed ac oedolyn, yn para tua awr. Tocynnau’n costio £6 y person.

Argymhellir eich bod yn archebu eich tocynnau. Cadwch eich lle nawr, archebwch yma.

Cofiwch fod ffioedd mynediad arferol y Castell hefyd yn berthnasol i bob oedolyn a phlentyn a rhaid eu talu ar y diwrnod.

 

Gweithdy Ffeltio Nodwyddau’r Pasg
Dydd Mawrth 18 Mawrth, 4.30 – 6.30pm

Dewch draw i weithdy ffeltio nodwyddau dros y Pasg a chreu addurniadau tymhorol ar gyfer y Pasg wrth ddysgu crefft newydd! Perffaith i ddechreuwyr.

Yn ystod y sesiwn 2 awr, byddwn yn eich dysgu sut i ffeltio nodwyddau a byddwn wrth law i roi cymorth ac arweiniad wrth i chi greu eich dyluniadau gwanwynol eich hun.

Bydd diodydd a chacennau ar gael i’w prynu drwy gydol y digwyddiad.

£20 gyda the/coffi wedi’i gynnwys (mae diodydd a chacennau eraill ar gael am gost ychwanegol).

Ni cheir ad-daliad am docynnau. Addas i 12 oed a hŷn

Rhaid archebu lle, archebwch yma.

Yn cael ei gynnal yn Ystafell De Nest, yng Ngardd Furiog Castell Caeriw.

 

Te Prynhawn Sul y Mamau
Ar gael rhwng dydd Llun 24 a dydd Gwener 28 Mawrth, rhwng 3 a 3.30pm.

Os ydych chi’n chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol fel anrheg i Mam eleni, beth am de prynhawn arbennig yn Ystafell De Nest yn yr Ardd Furiog yng Nghastell Caeriw? Mwynhewch frechdanau bysedd ysgafn, cacennau cartref a detholiad o ddanteithion blasus. Gyda dewis o de premiwm neu goffi organig.

£20 y pen. Gallwch ei wneud yn brofiad arbennig iawn drwy ychwanegu gwydraid o Prosecco am £5 yn unig.

Mae llefydd yn brin felly rhaid archebu lle, archebwch yma.

Mae’n cynnwys mynediad AM DDIM i Famau i’r Castell a’r Felin ymlaen llaw! Mae mynediad arferol yn berthnasol i weddill y parti. Ni cheir ad-daliad am archebion.

 

Te Prynhawn y Pasg
 Dydd Llun 31 Mawrth – dydd Gwener 4 Ebrill, rhwng 3 a 3.30pm

Dathlwch y Pasg gyda phrofiad hyfryd o de prynhawn yn Ystafell De Nest, yn yr Ardd Furiog yng Nghastell Caeriw.

Mwynhewch amrywiaeth o gacennau cartref, brechdanau bysedd ysgafn, a danteithion blasus dros y Pasg, i gyd gyda’ch dewis chi o de premiwm neu goffi organig.

£20 y pen, gallwch ei wneud yn brofiad arbennig iawn drwy ychwanegu gwydraid o Prosecco am £5 yn unig.

Mae llefydd yn brin felly rhaid archebu lle, archebwch yma.

Ni cheir ad-daliad am archebion.

 

Helfa Wyau Fawr Bunny
Dydd Sadwrn 5 Ebrill – dydd Sul 27 Ebrill, 10am-4pm

Ewch amdani ac ymuno â Bunny wrth iddo chwilio am wyau sydd wedi’u cuddio o amgylch y Castell! Dewch o hyd i’r holl wyau coll i gael gwledd flasus dros y Pasg!

Cymrwch ran gan ddefnyddio ffôn clyfar.

£2 y plentyn, yn ogystal â’r pris mynediad arferol.

 

Hanesion Hyll
Ebrill: Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7 Ebrill a 25 Ebrill am 11am
Sulgwyn: 28 Mai, 29 Mai, 30 Mai am 11am

Dewch i ddysgu am yr holl bethau na ddysgwyd i chi yn y dosbarth hanes! Straeon anghynnes, erchyll a brawychus am fywyd mewn cestyll mewn sgwrs hwyliog a rhyngweithiol ar gyfer y genhedlaeth iau.

Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

 

Dewch o hyd i’r Allwedd!
Bob dydd rhwng 7 Ebrill a 27 Ebrill (ac eithrio dydd Mawrth)

Mae pedair allwedd wedi’u cuddio o amgylch y Castell…ond dim ond un o’r allweddi sy’n datgloi’r gist drysor! A fyddwch chi’n dod o hyd i’r allwedd lwcus i agor y gist a datgelu eich gwobr?

Dewch i gwrdd â’ch tywysydd yn y porthdy am 3pm cyn iddyn nhw eich anfon chi i chwilio am yr allweddi coll. Pob lwc!

Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol.