Digwyddiadau’r Gaeaf 2024
Goleuo – Goleuadau Nadolig
Bob dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 29 Tachwedd tan 15 Rhagfyr
4.30pm – 7.30pm
Mae arddangosfeydd golau gwych yn creu croeso hudolus i’r teulu cyfan wrth i chi agosáu at yr Ardd Furiog, gydag Ystafell De Nest yn gwasanaethu eich holl ffefrynnau Nadoligaidd. Mae’r hud yn parhau wrth i chi ddilyn y goleuadau pefriol i ddarganfod y Castell wedi’i wisgo ar gyfer y Nadolig, gydag ardaloedd newydd ar agor ac arddangosfeydd atmosfferig newydd ar gyfer 2024, dyma un profiad na ddylid ei golli!
Cymerwch ran yn Nhaith Gweithdy Siôn Corn, chwiliwch am y cliwiau sydd wedi’u cuddio o amgylch y Castell a derbyniwch wledd i’ch ymdrechion! Mae’r llwybr yn costio £2 y plentyn.
Bydd cerddoriaeth fyw gan gorau a grwpiau lleol yn y Neuadd Leiaf bob penwythnos.
- Dydd Gwener 29 Tachwedd – 5pm Tom and Abz
- Dydd Gwener 29 Tachwedd – 6pm Choirs for Good
- Dydd Sadwrn 30 Tachwedd – 5pm Valero Voices
- Dydd Sul 1 Rhagfyr – 5pm Cor-y-Mor
- Dydd Gwener 6 Rhagfyr – 5pm Quaynotes Choir
- Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr – 2.30pm Sing -Youth Gospel Choir
- Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr – 5.30pm Redberth Community Choir
- Dydd Sul 8 Rhagfyr – 5pm Cleddau Flute Choir
- Dydd Gwener 13 Rhagfyr – 5pm Serendipity Choir
- Dydd Sadwrn 14 Rhagfyr- 5pm Gioelli
- Dydd Sul 15 Rhagfyr -5pm Cockles and Mussels
Oes angen i mi archebu?
Oes, oherwydd poblogrwydd Goleuo rhaid i bawb sy’n mynychu archebu slot cyrraedd ymlaen llaw. ARCHEBWCH YMA
Mae tocynnau yn gyfyngedig, archebwch i osgoi cael eich siomi.
Fodd bynnag, os byddwch yn ymweld â’r Castell/Groto yn ystod y dydd (tocynnau oedolion wedi’u prynu wrth gyrraedd) gallwch ddefnyddio’r tocyn hwn ar gyfer Goleu ar y noson honno’n unig, heb fod angen archebu lle!
Faint mae’n ei gostio?
Rydym wedi penderfynu codi ffi fechan am Goleuo eleni. Bydd hyn yn ein galluogi i barhau i fuddsoddi yn y profiad a’i wella bob blwyddyn, gan greu profiad gwirioneddol arbennig a chofiadwy, tra’n ei gadw’n fforddiadwy i’n cymuned leol.
Tocynnau: Oedolyn £2.50, Plentyn (4-16) £1.50
Mae angen archebu pob tocyn mynediad am ddim ar-lein hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Daliwr tocyn blynyddol (dewch â’ch tocyn gyda’r noson)
- Preswylydd plwyf Caeriw*
- Defnyddiwr cadair olwyn
- Gofalwr sy’n dod gyda nhw (gweler y rhestr o ddogfennau derbyniol YMA)
* Mae angen prawf o gyfeiriad ar gyfer pob oedolyn yn y grŵp.
Ni ellir rhoi ad-daliadau.
Gweithdy Crefftau Nadolig i Blant
Dydd Gwener 8 a 15 Tachwedd, 4pm – 5pm
Ymunwch â sesiwn hwyliog ar ôl ysgol i greu crefftau Nadoligaidd hardd. Darperir deunyddiau a bydd staff wrth law i helpu i greu campweithiau Nadoligaidd!
Bydd rhaid i blant gael eu hebrwng gan oedolyn. Un oedolyn yn unig i bob plentyn oherwydd diffyg lle.
Bydd diodydd a theisennau Nadoligaidd ar gael i’w prynu.
£6 y plentyn. Ni fydd angen tocyn ar oedolion sy’n hebrwng plant.
Addas ar gyfer 4+ oed
Rhaid archebu ymlaen llaw: Archebwch Yma!
Cynhelir yn Ystafell De Nest, yng Ngardd Furiog Castell Caeriw.
Ni ellir rhoi ad-daliadau.
Groto Siôn Corn
Bob Ddydd Sadwrn a Dydd Sul o 30 Tachwedd tan 15 Rhagfyr
10am – 4pm
Mae Siôn Corn wedi bod yn brysur drwy’r flwyddyn yn paratoi ar gyfer yr ŵyl ond mae wedi cael amser i ddod i Gastell Caeriw. Mae’n aros i gwrdd â chi yn ei Groto hudolus wedi’i guddio o fewn waliau Castell. Dewch draw i’w gyfarfod, dywedwch wrtho sut rydych chi wedi bod yn dda eleni a bydd yn rhoi anrheg Nadolig i chi.
Faint mae’n ei gostio i weld Siôn Corn?
Mae’n costio £8 y plentyn i gwrdd â Siôn Corn a derbyn anrheg, mae archebu lle yn hanfodol. ARCHEBWCH YMA
A oes tâl am weddill y grŵp?
RHAID i bawb sy’n mynd gyda’r plentyn i’r Groto hefyd brynu tocyn mynediad Castell.
Mae’r tocynnau’n cynnwys mynediad yn ystod y dydd i’r Castell a mynediad gyda’r nos i Goleuo ar gyfer y diwrnod/noswaith hwnnw yn unig.
Pris y tocynnau cysylltiedig yw:
Oedolyn £3, Conc. £2.50 (65+), Plentyn (4-16) £1.50 (ddim yn gweld Siôn Corn)
Rhaid prynu tocynnau cysylltiedig wrth gyrraedd y Castell, bydd angen prawf o docynnau Groto a brynwyd. Sicrhewch eich bod yn cadw pob tocyn os ydych am ddychwelyd am Goleuo y noson honno.
Ni ellir rhoi ad-daliadau.
Mae Siôn Corn wedi symud ei Groto i’r Castell! Caniatewch amser i gerdded o’r Siop i’r Castell.
A yw’r groto yn hygyrch i bawb?
Ydy, mae’r Groto ar lawr gwaelod y Castell.
A fydd yr Ystafell De ar agor?
Bydd, bydd Ystafell De Nest ar agor yn gweini danteithion Nadoligaidd gan gynnwys ein siocledi poeth moethus gwych a gwin cynnes!