Er yn enwog am ei rôl mewn hanes, mae Castell Caeriw’n llai adnabyddus – ond lawn cyn bwysiced – am ei fywyd gwyllt. Cafodd y Castell, y glaswelltir, Llyn y Felin a Lôn y Felin eu dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) i gydnabod y ffaith hon ym 1995.
Ystlumod
Mae ystlumod llwglyd wrth eu bodd yn hela’r gwyfynod, y chwilod a’r creaduriaid di-asgwrn-cefn sy’n byw ymysg y glaswellt hir a’r blodau gwylltion yma yng Nghastell Caeriw – dyna un rheswm pam rydyn ni’n gadael i’r glaswellt dyfu’n hir.
Cofnodwyd mwy na hanner yr holl rywogaethau ystlumod a geir ym Mhrydain – gan gynnwys yr ystlum pedol mwyaf, sy’n eithriadol o brin – yma dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Mae Tŵr y De Orllewin ar gau i’r cyhoedd er mwyn diogelu’r ystlumod sy’n byw yno. Mae mwy na hanner yr holl rywogaethau o ystlumod a geir ym Mhrydain – yn cynnwys yr ystlum pedol prin – wedi’u cofnodi yma.
Planhigion
Dywedir bod Castell Caeriw’n un o’r safleoedd gorau ym Mhrydain ar gyfer y llawredynen Gymreig a ffyngau cap cwyr. Tyfa’r maglys brith, troed-y-cyw clymog a dail tafol canolfain yn y glaswelltir o amgylch y Castell.
Adar
Mae’r titw tomos las, y dryw, y fwyalchen a jac-y-do i gyd yn nythu yng Nghastell Caeriw.
Mae tylluanod yn nythu yn adfeilion y Castell hefyd. Adeg y cyfnos fe allwch chi weithiau weld tylluan wen yn hela o gwmpas y Castell. Mae’r dylluan fach, y dylluan frech a’r dylluan wen hefyd wedi’u cofnodi yn y Castell.
Mae Llyn y Felin yn denu’r pibydd coesgoch, y gylfinir, pibydd y dorlan a hwyaden yr eithin yn ogystal ag elyrch preswyl Caeriw. Yn aml byddwn yn ddigon ffodus i weld glas y dorlan yn agos at y Felin tua diwedd yr haf.
Bydd gwenoliaid yn nythu bob blwyddyn yn y Felin a thua diwedd y gwanwyn/dechrau’r haf gellir eu gwylio drwy’r ‘camera gwennol’ yn Siop y Felin!