Merch Rhys ap Tewdwr, un o dywysogion y Cymry, oedd y Dywysoges Nest, ac fe’i ganwyd oddeutu 1080.
Wedi marwolaeth ei thad ym 1093, treuliodd lawer o’i hieuenctid yn llys Harri I, a roddodd iddi ei mab cyntaf. Ym 1100, priododd Gerald de Windsor, barwn Eingl-Normanaidd a oedd yn hŷn o lawer na hi.
Cwnstabl Castell Penfro oedd Gerald ar y pryd, a rhoddwyd safle Castell Caeriw iddo fel gwaddol. Gyda’i gilydd, fe godon nhw’r Castell cyntaf ar y safle er mwyn magu eu teulu o bump neu ragor o blant ynddo.
Helen Cymru?
Nest oedd y ferch harddaf yng Nghymru yn ôl y farn gyffredinol, ac mae sôn bod Owain ap Cadwgan, mab un arall o Dywysogion y Cymry, wedi’i lorio gymaint gan ei harddwch nes iddo ddringo waliau Castell Caeriw un noson ym 1109, cynnau tân a seinio rhybudd.
Yn y dryswch, dihangodd Gerald gan adael Nest ar ôl – nid yn erbyn ei hewyllys, o bosib – i’w chymryd yn garcharor gan Owain.
Bodlonwyd anrhydedd Gerald chwe blynedd yn ddiweddarach pan lwyddodd i gipio’i wraig, ynghyd â dau blentyn newydd gan Owain, yn ôl o Gastell Cilgerran, gan ladd Owain mewn brwydr.
Bu farw Gerald y flwyddyn ganlynol. Wedyn priododd Nest â Stephen, Castellydd Aberteifi, a chael mwy o blant eto gydag yntau.
Credir i Nest farw oddeutu 1136 wedi bywyd hynod liwgar a llawn digwyddiadau!