Ganed Syr John yn Haroldston, Sir Benfro ym 1530, yn fab anghyfreithlon i Harri VIII gan Mary Berkeley, gwraig Syr Thomas Perrot, yn ôl y sôn.
Parhaodd Syr John i fod yn ffefryn yn y llys yn ystod teyrnasiad Harri VIII ac Edward VI, ond treuliodd lawer o deyrnasiad y Frenhines Mari dramor.
Rhoddwyd swydd llywodraethwr Castell Caeriw iddo ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Elisabeth ac fe ddechreuodd waith ailadeiladu mawr ar wyneb gogleddol y Castell yn yr arddull Elisabethaidd.
Mab anghyfreithlon i Harri VIII?
Fe’i penodwyd yn Arglwydd Ddirprwy Iwerddon ym 1584 ac yn aelod o’r Cyfrin Gyngor.
Ond roedd ganddo sawl gelyn, ac roedd sawl si ar led am deyrnfradwriaeth.
Cythruddwyd masnachwyr Hwlffordd pan ganiataodd i gontraband ysbeiliedig lanio yn ei borthladdoedd, ac fe arweiniodd hynny at ymchwiliad gan y Cyfrin Gyngor ym 1591.
Dygwyd Syr John i Dŵr Llundain, ei roi ar brawf a’i ddyfarnu’n euog o deyrnfradwriaeth.
Ond mae’n debyg fod Elisabeth yn gyndyn o arwyddo’r warant i’w ladd a bu farw’n naturiol yn y Tŵr ym 1592.