The Tempest
Dydd Mawrth 29 Gorffennaf, bydd y giatiau’n agor am 5.30pm, a’r sioe yn dechrau am 6.30pm

Mae Immersion Theatre yn falch o gyflwyno The Tempest; drama fwyaf hudolus Shakespeare sy’n llawn egni, comedi, rhamant a dial! Gyda thoreth o gyfranogiad gan y gynulleidfa, bydd y sioe hudol hon yn dod yn fyw mewn arddull fythgofiadwy, sy’n berffaith ar gyfer y rhai sy’n hoff iawn o theatr a newydd-ddyfodiaid i waith Shakespeare. Peidiwch â cholli’r cyfle!

Genre: Drama

Addas ar gyfer oedran: 8+

Dewch â ryg neu gadair â chefn isel, croesewir picnics, diodydd poeth a hufen iâ ar gael.

Oedolyn £16.00, Consesiwn (65 oed neu fyfyriwr) £14.00, Plentyn (3 – 16) £12.00, Teulu £50 (2/2 neu 3 oed)

Nid oes posib cael arian yn ôl am y tocynnau a bydd y perfformiad yn cael ei gynnal mewn tywydd gwlyb. Gwisgwch ddillad cynnes/gwrth-ddŵr.

The Wind in the Willows
Dydd Mawrth 5 Awst, bydd y giatiau’n agor am 4.45pm, a’r sioe yn dechrau am 5.30pm.

Paciwch eich picnics ac ymunwch â Ratty, Mole, Badger, a’r Toad rhyfeddol o sionc wrth iddynt gychwyn ar antur oes, gan arwain at frwydr liwgar i achub Toad Hall rhag y gwencïod direidus!

Mae Immersion Theatre, sydd wedi’i henwebu am sawl gwobr, yn falch o ddod â’u harddull a’u hegni unigryw i lan yr afon gyda llwyth o ryngweithio, gwisgoedd trawiadol, cerddoriaeth afaelgar, a chymeriadau hynod.

Gwefr Lyffantastig, p’un a ydych chi’n 4 neu’n 104!

Genre: Sioe Gerdd

Argymhellir ar gyfer: 4+ oed