Ble bynnag mae pobl yn mynd, rydym yn gadael ein hôl ar yr amgylchedd. Doedd y bobl oedd yn byw yng ngogledd Sir Benfro ddim yn eithriad. Gadawsant eu hôl ar y dirwedd fel cliwiau i ni greu darlun o’u bywydau a’u storïau.
Ewch ychydig bach pellach na Chastell Henllys a chewch barhau ar eich taith o amgylch safleoedd cynhanes Sir Benfro.
Gelwir y dirwedd arw hon lle saif Castell Henllys yn Wlad Hud a Lledrith.
Mae saith safle cynhanes pwysig yn y rhan hon o’r Parc Cenedlaethol sy’n dangos i ni cymaint o gysylltiad oedd gan y Celtiaid â’r tir hwn.
Yng Nghanolfan Ymwelwyr Castell Henllys, edrychwch am wybodaeth am y safleoedd arbennig hyn, yna dilynwch hanes Sir Benfro yn y cyfnod cynhanes drwy ymweld â’r safleoedd.
Y safleoedd yw:
- Crugiau Cemaes – Safle claddu o’r Oes Efydd ac anheddiad o’r Oes Haearn
- Carreg Coetan Arthur – Cromlech Neolithig
- Dinas Mawr – Caer o’r Oes Haearn (swyddogaeth anhysbys)
- Pentre Ifan – Cromlech Neolithig
- Foel Drygarn – Tair tomen gladdu o’r Oes Efydd ac anheddiad o’r Oes Haearn
- Carn Meini – Creigiau dolerit, a elwir yn gerrig gleision
- Gors Fawr – Cylch cerrig, wedi’i godi dros 4,000 o flynyddoedd yn ôl.