Profwch yr Oes Haearn
Dydd Sadwrn 10 Chwefror to dydd Sul 18 Chwefror 10am – 3pm
Mae antur hynafol yn aros amdanoch!
Yn y Pentref Oes Haearn bydd aelodau cyfeillgar o’n llwyth (10am – 12.30pm a 1.30pm – 3pm) yn dweud popeth wrthych chi am fywyd yn yr Oes Haearn. Cewch gyfle i gael tro gyda “ffon dafl”, gwylio arddangosiad o grefft neu sgil hynafol, cael eich paentio gyda phatrymau prydferth glas a chael eich diddani gyda hen hanesion am sut oedd bywyd dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Mae taith tywys hefyd wedi’i chynnwys yn y pris mynediad am 12 hanner dydd.
Bore Tawel Profwch yr Oes Haearn
Dydd Sul 11 Chwefror and Dydd Sul 18 Chwefror 10am-12 hanner dydd
Bob bore Sul, ni’n neud sesiwn dawel yn y bore, lle mae’r pentrefwyr yn llai tebygol i wneud gweithgareddau swnllyd. Tal mynediad arferol.
GWEITHGAREDDAU TEULUOL
Hwyl yn Henllys
Dydd Mawrth a Dydd Iau yn ystod y gwyliau ysgol 11.00am – 12.30pm a 1.30pm – 2.30pm.
Profwch amrywiaeth o gweithgareddau cyn-hanesyddol, holwch yn yr derbynfa wrth i chi gyrraedd i ffeindio allan pwy sesiwn sydd yn cael ei chynnal yn ystod eich ymweliad. Tâl ychwanegol ar ben prisiau mynediad arferol.
Druid Magic
Dydd Mercher 14 Chwefror 11am
Roedd Derwydd yr Oes Haearn yn wybodus, doeth ac yn gyfrinachol. Ymunwch â sesiwn ymarferol i geisio dysgu rhai o’u cyfrinachau, gan gynnwys dechrau tân, ceisio gwneud bara ac hefyd glasu’r wyneb. Oed 6+. £7 y plentyn ar ben y pris mynediad arferol.
DIGWYDDIADAU ARBENNIG
Rhyfeddodau Awyr y Nos
Nos Mercher 14 Chwefror 6.15pm – 7.45pm
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw un o’r mannau gorau i fwynhau’r tawelwch a’r awyr serog, ond ydych chi erioed wedi meddwl tybed beth fyddai ein hynafiaid wedi ei feddwl o awyr y nos â’r sêr yn disgleirio?
Wrth i ni ddathlu Wythnos Awyr Dywyll Cymru, dewch i gasglu o gwmpas gwres y tân mewn tŷ crwn yng Nghastell Henllys i wrando ar y storïwr Alice Courvoisier wrth iddi archwilio amrywiol gytserau a’n goleuo gyda straeon, mythau a chwedlau o wahanol draddodiadau diwylliannol. Os bydd y tywydd yn ffafriol, bydd cyfle i edmygu awyr y nos a chanfod rhai o’r cytserau ar ôl y sesiwn adrodd straeon.
Gwisgwch ddillad cynnes. Dewch â thortsh a binocwlars. 7+ oed. Rhaid i blant (7-16) fod o dan oruchwyliaeth oedolyn. Rhaid archebu lle. £8 y pen.
Diwyrnod Addysg Gartref – Yr Oes Hearn
Dydd Mercher 28 Chwefror 10.30am-2.30pm
Cyfle i deuluoedd a grwpiau addysg gartref i brofi Rhaglen Ysgolion Castell Henllys. Fe fydd y disgyblion yn cael y cyfle i dryfeilu nôl mewn amser i’r Oes Haearn am sesiwn a fydd yn cael ei arweinu gan un o’n dehonglwyr. Mae ein Rhaglen Ysgolion wedi’i chynllunio ar gyfer CA2 ac mae wedi’i hanelu at blant 7-11 oed. Mae ‘na croeso i blant hŷn i ddod gyda’u brodyr neu chwiorydd iau.
£6 y plentyn. Mae hyn yn cynnwys mynediad i un oedolyn am ddim ym mhob grwp teulu.