Profwch yr Oes Haearn
Mae antur hynafol yn aros amdanoch!
Yn y Pentref Oes Haearn bydd aelodau cyfeillgar o’n llwyth (10am – 12.30pm a 1.30pm – 5pm) yn dweud popeth wrthych chi am fywyd yn yr Oes Haearn. Cewch gyfle i gael tro gyda “ffon dafl”, gwylio arddangosiad o grefft neu sgil hynafol, cael eich paentio gyda phatrymau prydferth glas a chael eich diddani gyda hen hanesion am sut oedd bywyd dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Mae taith tywys hefyd wedi’i chynnwys yn y pris mynediad, am 11.30am a 2.30pm.
Bore tawel Profwch yr Oes Haearn
Dydd Sul 10am – 12 hanner dydd
Bob bore Sul, ni’n neud sesiwn dawel yn y bore, lle mae’r pentrefwyr yn llai tebygol i wneud gweithgareddau swnllyd. Tal mynediad arferol.
Taith Tywys Cymraeg (addas i ddysgwyr)
Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf Dydd Sadwrn 3 Awst, Dydd Sadwrn 17 Awst
Er bod ein cynnig arferol yn ddwyiaethog, mae’r teithiau tywys byr yma wedi cal eu creu i fod yn uniaith Gymraeg.
FAMILY ACTIVITIES
Hwyl yn y Gaer
Pob Dydd Mawrth a Dydd Iau 23 Gorffennaf – 29 Awst o 11am ymlaen
Rhowch gynnig ar amrywiaeth o weithgareddau cynhanesyddol ymarferol. Holwch yn y dderbynfa ar ôl cyrraedd i weld pa sesiynau fydd yn cael eu cynnal yn ystod eich ymweliad. Codir ffi ychwanegol yn ogystal â mynediad arferol.
Hud y Derwyddon (6 oed a hŷn)
Pob Dydd Mercher 24 Gorffennaf – 28 Awst 11am a 2.30pm
Roedd Derwyddon Prydain o’r Oes Haearn yn wybodus, yn ddoeth ac yn gyfrinachol. Ymunwch â sesiwn ymarferol i ddysgu rhai o’u cyfrinachau, gan gynnwys cynnau tân, gwneud bara a phaentio wynebau. 6 oed a hŷn. £7 y plentyn, yn ogystal â’r pris mynediad arferol.
Dod yn Anturiaethwyr Afon
Dydd Iau 15 Awst 10am – 2pm
Mae Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru yn cynnal diwrnod “Anturiaethwyr Afon” hwyliog i’r teulu. Dewch a’ch sgidiau glaw, chwyddwydrau ac ysbienddrych wrth i ni ymchwilio am fywyd yn ein hafonydd. O infertebratau i ddyfrgwn, dysgwch am ecoleg afonydd wrth i chi ddod yn anturiaethwyr afonydd gwych.
SPECIAL EVENTS
Darganfodwch Archioleg
Dydd Gwener 26 Gorffennaf, 10am-5pm
Darganfodwch beth mae’n cymryd i ddod yn archiolegydd! Darganfodwch sut mae lleoliad yn cael ei ffindio, cloddio a’i ddiogelu. Dalwch atgynyrchiadau a deunydd archiolegol o’n casgliad ni a dewch i cwrdd a archeolegwr sydd yn gofalu am hanes Sir Benfro a ffeindiwch allan fwy am beth mae’n nhw’n gwneud.
I’r pobl sydd moen fod yn ymarferol, fe fydd yna siawns i’r plant gloddi, a cael tro yn darganfod rhywbeth.
Pris arferol i ddod i mewn, fe fydd yna tâl ychwanegol i rhai gweithgareddau.
Gweithgareddau’r Dydd – Lughnasadh
Dydd Iau 1 Awst, 10am-5pm
Mae’r dachreuad o’r cynhaeaf wedi dod, ac mae pobl y fryngaer yn dathlu. Ymunwch a nhw wrth treual gweithgareddau neu gwrando a’r hen chwedlau. Yn yr prynhawn fe fydd yna gyfle i ymuno a’r chwaraeon a dathluadau.
£10 Oedolyn, £9 Consesiwn, £8 Plentyn, £32 Teulu (2+2). Fe fydd yr gweithgareddau i gyd ar gael yn yr tocyn mynediad.
Dathliad gyda’r Nos, Calan Awst
Dydd Iau 1 Awst, drysau ar agor 6.45pm
Wrth i’r cynhaeaf ddechrau, rydyn ni’n dod at ein gilydd i ddathlu. Bydd cerddoriaeth byw gan Mari Mathias am 7.30pm, cyn perfformiad tân ysblennydd – a thanio ein dyn gwiail. Argymhellir ar gyfer plant 4 oed a hŷn. Dewch â blanced neu gadair a dillad sy’n addas ar gyfer perfformiad y tu allan.
Pris tocyn: £18 Oedolyn, £17 Consesiwn, £16 Plentyn a £60 Teulu (2+2). RHAID ARCHEBU LLE.
Sgiliau Syrcas o’r Awyr
Dydd Mercher 7 Awst, 12 hanner dydd a 2pm
Dyma gyfle unigryw i roi cynnig ar sgiliau syrcas awyr yng nghanol Pentref yr Oes Haearn. Gweithdy rhagarweiniol Sgiliau Syrcas o’r Awyr sy’n addas ar gyfer plant 8 oed a hŷn.
£30 y pen, (gan gynnwys mynediad i Bentref yr Oes Haearn). RHAID ARCHEBU LLE.
Adloniant gyda’r Nos – Syrcas a Storïau
Dydd Mercher 7 Awst, drysau ar agor 6pm
Mae Castell Henllys yn cyflwyno Collective Flight Syrcas sy’n perfformio ‘Swyn’, a’r Storïwr Tamar Eluned Williams. Awen ‘Swyn’ yw straeon am y tir a chymunedau menywod, ac hefyd wedi’i ysbrydoli gan arfordir Sir Benfro, y gorffennol a phrofiadau Celtaidd. Bydd y Storïwr adnabyddus, Tamar, yn dechrau’r noson drwy roi bywyd newydd i stori Branwen. Argymhellir ar gyfer plant 4 oed a hŷn. Dewch â blanced neu gadair a dillad sy’n addas ar gyfer perfformiad y tu allan.
Pris tocyn: £16 Oedolyn, £15 Consesiwn, £14 Plentyn a £53 Teulu (2+2). Rhaid archebu eich tocyn ymlaen llaw.
Chwilota gyda’r Teulu
Dydd Sadwrn 10 Awst, 11am-1pm
Ymunwch â’r chwilotwr proffesiynol Jade Mellor ar daith gerdded fwyd wyllt o amgylch Castell Henllys, lle byddwch yn chwilio am y planhigion tymhorol mwyaf blasus ac yn gwneud jar bach o pethau gwyllt i fynd adref gyda chi.
£20 y pen (gan gynnwys mynediad i Bentref yr Oes Haearn). Lleoedd yn gyfyngedig.