Profwch yr Oes Haearn

Mae antur hynafol yn aros amdanoch!
Yn y Pentref Oes Haearn bydd aelodau cyfeillgar o’n llwyth (10am – 12.30pm a 1.30pm – 5pm) yn dweud popeth wrthych chi am fywyd yn yr Oes Haearn. Cewch gyfle i gael tro gyda “ffon dafl”, gwylio arddangosiad o grefft neu sgil hynafol, cael eich paentio gyda phatrymau prydferth glas a chael eich diddani gyda hen hanesion am sut oedd bywyd dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Mae taith tywys hefyd wedi’i chynnwys yn y pris mynediad, am 11.30am a 2.30pm.

 

Bore tawel Profwch yr Oes Haearn

Dydd Sul, 10am-12  hanner dydd

Bob bore Sul, ni’n neud sesiwn dawel yn y bore, lle mae’r pentrefwyr yn llai tebygol i wneud gweithgareddau swnllyd. Tal mynediad arferol.

A man in iron age costume standing in front of round houses

Taith Tywys Cymraeg (addas i ddysgwyr)

Dydd  Sadwrn 7 Medi a Dydd Sadwrn 5 Hydref 11.00am

Er bod ein cynnig arferol yn ddwyiaethog, mae’r teithiau tywys byr yma wedi cal eu creu i fod yn uniaith Gymraeg. Tal mynediad arferol.

GWEITHGAREDDAU TEULUOL

Hwyl yn y Gaer

Dydd Mawrth 29 a Dydd Mercher 30 Hydref o 11am ymlaen

Rhowch gynnig ar amrywiaeth o weithgareddau cynhanesyddol ymarferol. Holwch yn y dderbynfa ar ôl cyrraedd i weld pa sesiynau fydd yn cael eu cynnal yn ystod eich ymweliad. Codir ffi ychwanegol yn ogystal â mynediad arferol.

Taith Hunllef Henllys

Dydd Sadwrn 26 Hydref – Dydd Sul 3 Tachwedd

Wire ghost at Castell Henllys

Mae’r llen rhwng yr byd yma a’r nesa’, a rei fwya ‘wan ac mae’r ysbrydion a anghelfiod wedi dachrau dod allan! Cerddwch trwy’r coedwig, ac chwiliwch am yr ysbrydion a anghelfilod sydd wedi dangos ei hunan. Cymerwch llun ohonyn nhw neu ysgrifennwch lawr ei enwau i ennill wobr!

DIGWYDDIADAU ARBENNIG

GWEITHDY BRETHYN HYNAFOL

Dydd Sadwrn 7 Medi a Dydd Sul 13 Hydref 11am – 4pm

Dysgwch am dechnegau creu brethyn roedd ein cyndeidiau (a chynmamau!) yn eu defnyddio i greu darn o frethyn hynafol eich hun. Yn ystod y gweithdy cewch eich gyflwyno i dechnegau sylfaenol nyddu, gwehyddu a gweithio gyda llifion.

£35 y person (cynnwys mynediad i’r Pentref Oes Haearn a’r holl ddeunyddiau). Addas ar gyfer oed 12+. Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn sy’n talu. Ni ellir ad-dalu’r tocynnau.

Archebwch Nawr

DIWYRNOD ADDYSG GARTREF – YR OES HEARN

Dydd Mercher 9 Hydref 10.30am – 2.30pm

School group enter Castell Henllys Iron Age Village

Cyfle i deuluoedd a grwpiau addysg gatref i profi yr Rhaglen Ysgolion Castell Henllys. Fe fydd y disgyblion yn cael y cyfle i deithio nôl mewn amser i’r amser am sesiwn a fydd yn cael ei arweinu gan un o’n dehonglwyr. Mae ein Rhaglen Ysgolion wedi’i gynllunio ar gyfer CA2 ac mae wedi’i hanelu at blant 7-11 oed. Mae ‘na croeso i blant hŷn i ddod gyda’u brodyr neu chwiorydd iau.
£8 y plentyn. Mae hyn yn cynnwys mynediad i un oedolyn am ddim ym mhob grwp teulu.

Archebwch Nawr

Samhain/Noson Calan Gaeaf

Dydd Iau 31 Hydref 10am-4pm

Wrth i’r oriau’r dydd lleihau ac ma’r gaeaf yn dachrau agosau, ymunwch a’r pentrefwyr wrth iddyn nhw dathlu Noson Calan Gaeaf. Mwynhewch gweithgareddau allwch ymuno mewn gyda a gwrando i chwedlau a strëon cyn dod at ein gilydd o gwmpas yr coelcerth am prynhawn o dathliadau.

£10 Oedolyn, £9 Consesiwn, £8 Plentyn, £32 Teulu (2+2). Mae’r gweithgareddau i gyd yn cael ei cynnal yn eich tocyn mynediad.

Awyr Dywyll a Ser Disglair

Dydd Gwerner 1 Tachwedd

Dark Skies over the Iron Age roundhouses at Castell Henllys.

Ymunwch â ni am noson awyr dywyll yng Nghastell Henllys yn dathlu rhyfeddod awyr nos Sir Benfro. Byddwn yn archwilio pam mae awyr dywyll yn bwysig i ni a’n bywyd gwyllt. Os bydd y tywydd yn caniatáu, byddwn wedyn yn mynd am dro i’r Pentref Oes Haearn i syllu ar y sêr gyda thelesgopau. Addas ar gyfer oedolion a phlant 11+. Mae’n ddrwg gennym – ni chaniateir cŵn yn y digwyddiad hwn. Nid yw tocynnau’n ad-daladwy. £10 Oedolyn/Plentyn.

Archebwch Nawr

HEULDRO’R GAEAF

Dydd Sadwrn 21 Rhagfyr 11am-3.30pm

Winter Solstice at Castell Henllys

Mae’r diwyrnod byrraf yma. Dathlwch drwy roi cynnig ar grefftau Nadoligaidd neu wrando ar straeon wrth ymyl y tân. Wrth i’r dydd ddod i ben, byddwn yn cynnu’r coelcerth (yn dibynnu ar y tywydd) a bydd cyfle i gwrdd â’r Fari Lwyd!

£10 Oedolyn, £9 Consesiwn, £8 Plentyn, £32 Teulu (2+2). Mae’r holl weithgareddau wedi’u cynnwys yn y pris mynediad.

Archebwch Nawr