Profwch yr Oes Haearn
7 Ebrill – 2 Tachwedd
Mae antur hynafol yn aros amdanoch!
Yn y Pentref Oes Haearn bydd aelodau cyfeillgar o’n llwyth (10am – 1pm a 2pm – 5pm) yn dweud popeth wrthych chi am fywyd yn yr Oes Haearn. Cewch gyfle i gael tro gyda “ffon dafl”, gwylio arddangosiad o grefft neu sgil hynafol, cael eich paentio gyda phatrymau prydferth glas a chael eich diddani gyda hen hanesion am sut oedd bywyd dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Mae taith tywys hefyd wedi’i chynnwys yn y pris mynediad am 11.30am a 2.30pm.
Bore tawel Profwch yr Oes Haearn
Dydd Sul 10am – 12 hanner dydd.
Bob bore Sul, ni’n neud sesiwn dawel yn y bore, lle mae’r pentrefwyr yn llai tebygol o wneud gweithgareddau swnllyd. Tal mynediad arferol.
GWEITHGAREDDAU TEULUOL
Hud Derwydd
Dydd Mawrth 15 a Dydd Mawrth 22 Ebrill 11am, 1pm a 2.30pm.
Roedd Derwyddion yr Oes Haearn yn wybodus, doeth ac yn gyfrinachol. Ymunwch â sesiwn ymarferol i geisio dysgu rhai o’u cyfrinachau, gan gynnwys dechrau tân, ceisio gwneud bara ac hefyd glasu’r wyneb. Oed 7+. £7 y plentyn ar ben y pris mynediad arferol.
Rydym ar hyn o bryd wrthi’n dychwelyd system archebu tocynnau newydd.
I archebu tocynnau i’r digwyddiad yma, ffoniwch ni ar 01239 891319 yn ystod amserau agor (Dydd Mercher-Dydd Sul, 10yb-3yp).
Hwyl yn Henllys
Dydd Mercher 16 and Dydd Mercher 23 Ebrill o 11am ymlaen
Profwch amrywiaeth o weithgareddau cyn-hanesyddol, holwch yn yr dderbynfa wrth i chi gyrraedd i ffeindio allan pwy sesiwn sydd yn cael ei chynnal yn ystod eich ymweliad. Tâl ychwanegol ar ben prisiau mynediad arferol.
Diwyrnod Darganfyddiad
Dydd Iau 17 a Dydd Iau 24 Ebrill o 11am ymlaen
Pob Dydd Iau, trwy gydol yr gwyliau ysgol, fe fydd ‘na cyfle i archwilio mewn i themau wahannol o amser a hanes gyda gweithgareddau wahannol pob wythnos. Codir ffi ychwanegol yn ogystal â mynediad arferol.
Llwybr y Gwanwyn
Dydd Sadwrn 5 Ebrill – Dydd Sul 27 Ebrill
Mae’r gaeaf yn ymadael â ni, ac mae’r amser ar gyfer dechreuadau newydd wedi cyrraedd. Chwiliwch drwy’r coedwig am arwyddion y gwanwyn. Tynnwch lun neu ysgrifennwch nhw i lawr i ennill wobr.
£2 yn ogystal â’r pris mynediad arferol.
DIGWYDDIADAU ARBENNIG
Gweithdu Nyddu
Dydd Sul 30 Mawrth
Dysgwch yr technegau sylfaenol, er mwyn creu eich edau eich hunain wrth gwlan defaid. Hanner diwyrnod i’r cyflwyniad o nyddu gwlan yn defnyddio gwerthyd gollwng.
Fe fydd defnyddiau a hyfforddiant yn cael ei cynnwys yn yr cwrs. Yn addas i plant dros 12 blwydd oed ac sydd o dan ofal oedolyn sydd yn talu. Mae archebu tocynnau cynllaw yn hanfodol, dydy’n ni ddim yn gallu had-dalu tocynnau. £25 yr person.
Gweithdu Nyddu Teuluol
Dydd Sul 13 Ebrill
Dysgwch yr technegau sylfaenol, er mwyn creu eich edau eich hunain wrth gwlan defaid. Hanner diwyrnod i’r cyflwyniad o nyddu gwlan yn defnyddio gwerthyd gollwng, yn addas i teuluoedd.
Fe fydd defnyddiau a hyfforddiant yn cael ei cynnwys yn yr cwrs. Yn addas i plant dros 6 blwydd oed ac sydd o dan ofal oedolyn sydd yn talu. Mae archebu tocynnau cynllaw yn hanfodol, dydy’n ni ddim yn gallu had-dalu tocynnau. £18 oedolyn £16 plentyn.
Rydym ar hyn o bryd wrthi’n dychwelyd system archebu tocynnau newydd.
I archbu tocynnau i’r digwyddiad yma, ffoniwch ni ar 01239 891319 yn ystod amserau agor (Dydd Mercher-Dydd Sul, 10yb-3yp).