Dewch i fwynhau diwrnod cynhanesyddol yng Nghastell Henllys ac ymgollwch eich hun yn yr unig bentref Oes Haearn ym Mhrydain sydd wedi’u hailadeiladu yn y fan a’r lle y byddent wedi sefyll 2,000 o flynyddoedd yn ôl.

Yn eiddo i ac yn cael ei rhedeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ein nod yw sicrhau bod eich ymweliad i’r gorffennol yn ysbrydoli dyfodol gwyrddach.

Y Pentref Oes Haearn

Yn ein tai crwn cewch gwrdd â’n pentrefwyr Oes Haearn cyfeillgarwrth iddynt rannu eu gwybodaeth am fywyd cynhanesyddol a byw mewn harmoni gyda’r tir drwy sgyrsiau ac arddangosiadau. Daw hanes y fryngaer yn fyw drwy gyfrwng tywyswyr mewn gwisgoedd sy’n cynrychioli aelodau o lwyth y Demetae, a oedd yn byw yn y gornel hon o Gymru cyn, yn ystod ac ar ôl goresgyniad y Rhufeiniaid.

Amserau Agor

Pentref Oes Haearn

3 Tachwedd – 21 Rhagfyr

Dydd Mercher – Dydd Sul 10am – 3pm

8  Ionawr – 6 Ebrill

Dydd Mercher – Dydd Sul 10am – 3pm

Caffi’r Caban

Ar Gau

 

Iron Age roundhouses at Castell Henllys Iron Age Village

Cyfleusterau a Gwybodaeth Bellach

Mae Castell Henllys hefyd yn gartref i fridiau hynafol o dda byw a choetir heddychlon llawn amrywiaeth o fywyd gwyllt.

GORCHUDDION WYNEB

Er nad yw’n hanfodol i wisgo gorchudd wyneb mwyach yng Nghymru, mae croeso i chi wisgo un os rydych yn teimlo’n fwy diogel trwy’i wneud.

HYGYRCHEDD A’R SGWTER SYMUDEDD

Mae gennym ddau sgwter symudedd pob tir ar gael i’w fenthyg. Ffoniwch 01239 891319 er mwyn eu harchebu.

GYFEILLGAR I GŴN

Roedd pobl ye Oes Haearn yn mwynhau cwmni eu cŵn. Mae croeso i’ch ci rannu yn eich antur gynhanesyddol hyd iddynt fod ar dennyn. Mae bagiau ar gyfer cwn ar gael yn y dderbynfa.

Dod Yma

Mewn car

Os ydych yn defnyddio ‘Satnav’ defnyddiwch ein côd post; SA41 3UR, neu, defnyddiwch ‘what3words’ geologist.grasp.history.

Mae’r mynediad i’r safle yn union bant o’r A487. Mae ‘na maes parcio ychwanegol ac i bysiau wrth ymyl Capel St Dogmaels, am yr prif maes parcio, dylynwch yr ffordd I’r chwith, heibo’r capel.

Ar bws

Mae’r T5 Trawscymru Aberystwyth i Hwlffordd yn rhedeg heibo’r mynedfa i Castell Henllys Dydd Llun i Dydd Sadwrn, heblaw am gwyliau banc.

Mae’r Fflecsibus wedi amnewid yr gwasanaeth bws 405 ‘Poppit Rocket’. Oriau’r gwasanaeth yw 7.30am – 6.30pm Llun – Sad, mae prisiau’n dechrau o £4 neu £6 ar gyfer teithiau hirach. I archebu’r bws, galwch 0300 234 0300 neu lawrlwythwch yr ap bws Fflecsi ar eich ffôn clyfar.

Prisiau Mynediad

Oedolyn (17+): £7

Consesiwn (65+ neu fyfyrwyr gyda thocyn fyfyrwyr dilys): £6

Plant (4-16): £5

Tocyn teulu (2 oedolyn a 2 plentyn): £22

Trwydded flynyddol/Preswylydd Eglwyswrw/Defnyddwr cadair olwyn/Gofalydd: Am Ddim

Rydych chi’n gymwys i gael mynediad am ddim os ydych chi:

  • deiliad Tocyn Blynyddol. Os oes gennych Docyn Blynyddol ar gyfer Castell Caeriw/Castell Henllys, dangoswch eich tocyn fel arfer ar ôl cyrraedd.
  • defnyddiwr cadair olwyn a/neu ofalwr cysylltiedig. Mae’n ofynnol i ofalwyr ddod ag un o’r eitemau dogfennaeth a ganlyn:
      • Llythyr Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
      • Llythyr Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
      • Llythyr yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
      • Bathodyn Glas (angen ID â llun arno)
      • Llythyr wedi’i lofnodi gan Feddyg Teulu (angen ID â llun arno)
      • Cerdyn Gofalwr/llythyr gan sefydliad Gofalwyr neu Gyngor Sir.

Tocyn Blynyddol

Uwchraddiwch eich tocyn i docyn blwyddyn! Cewch fynd i Gastell Caeriw a Castell Henllys mor aml ag y mynnwch chi mewn cyfnod o 12 mis. Uwchraddiwch ar ddiwrnod eich ymweliad ac fe wnawn ni ad-dalu pris eich tocyn dydd. Mae telerau ac amodau yn berthnasol

Oedolyn (17+): £20
Plant (4-16): £15
Consesiwn (65+ neu fyfyrwyr gyda thocyn fyfyrwyr dilys): £17.50
Tocyn teulu (2 oedolyn a 2 plentyn): £55