Datblygwyd ap Castell Henllys, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, er mwyn eich tywys o amgylch un o’r lleoedd mwyaf arbennig yn Sir Benfro.
Mae’r ap dwyieithog yn cynnwys fideos, ffotograffau a lluniau gwych i’ch helpu i ddysgu mwy am fywyd yn yr Oes Haearn.
Cewch ganfod eich ffordd o amgylch y safle â map rhyngweithiol a chael tynnu llun cerdyn post ohonoch eich hun gyda rhyfelwr o’r Oes Haearn.
Bydd y nodwedd realiti estynedig hefyd yn dangos i chi sut fyddai’r gaer wedi edrych dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.
Bydd yr ap hefyd yn eich gwahodd i dderbyn heriau er mwyn ennill pwyntiau ac anfon cerdyn post i ffrindiau a theulu.