Byddai Castell Henllys wedi bod yn gartref i deulu cyfoethog a dylanwadol, a oedd yn arwain llwyth o hyd at 100 o bobl.

Byddai’r bobl i gyd yn byw a gweithio yn agos at ei gilydd er mwyn cynhyrchu bwyd a deunyddiau ar eu cyfer hwy eu hunain a’r pennaeth.

 

 

Roedd y bobl yn ddyfeisgar iawn ac yn gallu troi eu llaw at dasgau amrywiol fel nyddu, llifo, gwehyddu, malu grawn i wneud bara a gwneud basgedi.

Y tân yn y canol fyddai canolbwynt y gymuned. Byddai’r tân yn llosgi drwy’r dydd er mwyn darparu cynhesrwydd, golau a gwres i goginio.

Byddai’r llwyth yn ymgynnull o amgylch y tân i ganu, dawnsio ac adrodd storïau cyn iddynt fynd i gysgu ar welyau wedi’u gwneud o fatresi gwair, blancedi gwlân a chrwyn anifeiliaid.

Byddai criw bach o ryfelwyr wedi amddiffyn tiriogaeth y llwyth rhag ysbeilwyr o gaerau eraill. Byddent hefyd wedi gallu defnyddio arfau amrywiol fel cleddyfau, gwawyffyn a ffyn tafl. Byddai’r rhyfelwyr hefyd wedi lladd anifeiliaid i’r llwyth eu bwyta.

Byddai gofaint teithiol a derwyddon wedi ymweld â’r gaer o bryd i’w gilydd, gan sicrhau bod y llwyth yn gallu cael arfau ac aberthu offrwm i’w duwiau.

Cadwch lygad am rai o bentrefwyr yr Oes Haearn yn ystod eich ymweliad. Gallant eich tywys o amgylch y safle a’ch dysgu sut i feistroli rhai o’r sgiliau y byddai arnoch eu hangen er mwyn goroesi yn yr Oes Haearn.

 

Seven members of an Iron Age family sit round the fire in an Iron Age roundhouse at Castell Henllys