Saif Bryngaer Oes Haearn Castell Henllys ar esgair o dir sy’n tremio dros ddyffryn afon fach. Gall ymwelwyr fynd i’r fryngaer hon, a gafodd ei hailadeiladu, ar ôl iddyn nhw brynu eu tocynnau yn y Ganolfan Ymwelwyr, oddi tan y fryngaer.
Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y prif lwybr i’r fryngaer, ni fyddwn yn gallu cynnig gwasanaethau’r sgwter symudedd nes ceir rhybudd pellach.
Gan fod y llwybr amgen yn cynnwys nifer o risiau, ni fydd modd i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio cyrraedd y safle yn ystod yr amser hwn. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra hwn.
Mae yna ddolen glyw yn y ddesg yn y dderbynfa. Mae yna doiled hygyrch â larwm braw ger y Ganolfan Ymwelwyr, ac mae yna doiledau i’r anabl yn yr adeilad arddangos.
Mae croeso i gŵn ar dennyn ond ni chaniateir cŵn y tu mewn i’r caffi. Caniateir cŵn ar y feranda a’r mannau eistedd y tu allan.
Cysylltwch â ni os ydych chi’n dymuno trefnu’ch ymweliad.