Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gweithio’n galed er mwyn cynnal y cynefinoedd bywyd gwyllt ar safle Castell Henllys.
Mae’r cynefinoedd hyn – coetir, dolydd, prysg a nentydd – yn bwysig er mwyn i’r creaduriaid hyn allu goroesi.
Mae’r bioamrywiaeth yr ardal yn wych i chi, ein hymwelwyr, sy’n cael mwynhau lwybrau bywyd gwyllt yn ogystal â llwybrau hanesyddol.
Mae bywyd gwyllt Castell Henllys yn amrywiol iawn.
Mae’r coetir hynafol, y nentydd a’r dolydd ar lan afon yn darparu cynefinoedd i greaduriaid o bob math.
Mae’r creaduriaid sydd wedi cartrefu yng Nghastell Henllys yn cynnwys:
- Pathewod sy’n byw yn y coetiroedd cyll sy’n cael eu bondocio
- Ystlumod lleiaf sy’n byw yn nho’r siop
- Dyfrgwn sydd wedi cartrefu yn nentydd Duad a Hafren
- Trochwyr sy’n byw ar greaduriaid sy’n byw yn y nant.