Canllaw am Ymweliad Ysgol i Gastell Henllys

Cynnwys y sesiwn

Mae’r sesiynau a cynnigwyd gan Gastell Henllys wedi’i gysylltu i amcanion allweddol y Parc Cenedlaethol ac i’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Cysyllwtwch a ni cyn eich ymweliad os oes gennych amcanion pennodol yr hoffwch gyflawni yn ystod eich ymweliad.

Teitl y Sesiwn: Diwrnod yn yr Oes Haearn

Addas i Gyfnod Sylfaenol i CA2.

Hyd sesiwn: O gwmpas 3.5 awr gyda thoriad am ginio ond gallwn newid amserau i siwtio.

 

Gweithgareddau

Sesiwn addysgiadol gan ein dehonglwyr mewn gwisg lle bydd y disgyblion yn teithio nôl mewn amser i’r Oes Haearn lle fydd yna weithgareddau ac arddangosiadau. Mae cynnwys y gweithgareddau a’r arddangosfeydd wedi’i ddisgrifio isod.

Adeiladu

Caiff disgyblion ei chyflwyno i ffurfiau adeiladu yn yr Oes Haearn trwy ddysgu sut i adeiladu tŷ crwn. Bydd y sgwrs yn son am y defnydd gwahanol, ei tharddiad a’u cynaliadwyedd; y broses adeiladu (arddangosfa dwb a bangori) a sut fydd y tŷ gorffenedig yn edrych fel ac yn gweithio.

Gweithgaredd: Bydd y plant yn cael tro ar bangori gyda brigau.

Agweddau o’r cwricwlwm: Dylunio a thechnoleg, Hanes, mathemateg, cynaladwyedd

Coginio

Bydd disgyblion yn dysgu am fwyd yn yr Oes Haearn- o le’r oedd yn dod a sut roedd yn cael ei pharatoi i fwyta. Bydd y dehonglwr yn arddangos sut i greu bara.

Gweithgaredd: Fydd y plant yn cael siawns i ddefnyddio’r cerrig malu i greu blawd a siapio toes.

Agweddau o’r cwricwlwm: Gwyddoniaeth (Maetheg), Coginio, Hanes

Trysorau’r Pennaeth

Bydd y plant yn cael ei cyflwyno I pennaeth y pentref. Bydd y pennaeth y cyflwyno cymdeithas Oes Haearn I’r plant yn fras trwy siarad am gwahanol arteffatau yn y ty mewn ffordd hwylus. Er enghraifft:

  • Hoff clogyn- sut roedd dillad yn cael ei creu
  • Drych, torch, cleddyf- defnydd wahanol o metalm dangos statws.
  • Crochan- Duwiau a chrefydd
  • Pen/ Croen mochyn- Troffïau hela a rhyfel

Gweithgaredd: Gem Brolio- lle mae’r plant yn cael eu rhannu mewn u grwpiau cyn penderfynu ar  eitem sydd arnynt (esgid, sanau, ipad) i’w ddisgrifio mewn stori ryfeddol am pam mae’r eitem yna yw’r gorau o’r holl eitemau arall. Fydd y pennaeth yn dewis pa eitem yw’r gorau.

Agweddau o’r cwricwlwm: Iaith, Gweithio fel tîm, datrys problemau

Ffordd y Rhyfelwr

Bydd y plant yn cael eu cyflwyno i ryfela yn yr Oes Haearn. Fydd y dehonglwr yn siarad ac arddangos sut roedd pobol Oes Haearn yn mynd mewn i ryfel (arfau, arfwisg, sŵn). Os fydd y tywydd yn caniatáu bydd y dehonglwr yn dangos a siarad am amddiffyniadau’r fryngaer a dangos sut roedd y ffon dafl yn cael ei defnyddio. Os na fydd y tywydd dyn caniatáu bydd y dehonglwr yn arddangos dechrau tan a siarad am bwysigrwydd tan am wres, golau a choginio.

Gweithgaredd: Tywydd yn caniatáu- Cael tro ar ffon dafl. Tywydd ddim yn caniatáu: Arddangosfa dechrau tan.

Agweddau o’r cwricwlwm: cydraddoldeb cenedl, hanes, daearyddiaeth,

Two children watch a woman in celtic dress fire a traditional slingshot

Cyn eich Ymweliad

Cyn-ymweliad gan athro

Mae croeso i athrawon i gwneud cyn-ymweliad i’r safle (di-dâl). Fydd angen bwcio eich ymweliad.

 

Staffio

Mae’n rhaid i’r ysgol sicrhau ei fod yn darparu’r nifer o staff sydd yn angenrheidiol ar gyfer ymweliadau ysgolion yn ôl ei awdurdod lleol. Ar ran y safle , pa bynnag mor fach yw’r grŵp , mae rhaid bod yna ddau aelod o staff yr ysgol gyda’r grŵp ac yna o leiaf un aelod ychwanegol i bob 15 disgybl wedi hyn.

 

Anghenion Arbennig

Ymdrechwn yma yng Nghastell Henllys i wneud ein gweithgareddau yn agored i bawb, beth bynnag eu gallu. Cynghorwch ni am unrhyw blentyn sydd gydag alergedd, cyflyrau meddygol neu anghenion arbennig felly gallwn addasu’r gweithgareddau i siwtio. Mae’r llwybr i’r pentref yn medru fod yn serth mewn rhai mannau felly gadewch i ni wybod os oes gennych blant mewn ffyn baglau neu gadair olwyn gan fedrwn fynd a nhw i fyny i’r pentref yn ein ‘peiriant amser’ (car y safle). Oherwydd cyfyngiadau Covid-19 ni allwn gynnig gwasanaeth car ar y foment ond mae gennym sgwter mudoledd ar gael i’w ddefnyddio.

 

Amseriadau

Bydd amseriadau wedi cael eu cytuno pan wnaethoch archebu’r sesiwn. Os mae’r grŵp yn hwyr yn cyrraedd yna ymdrechwn i gwblhau’r sesiwn fel y cytunwyd, ond fydd gennym yr hawl i addasu neu ganslo’r sesiwn.

 

Dillad

Mae angen i’r grŵp fod wedi’u wisgo ar gyfer tywydd amrywiol Sir Benfro. Dylai esgidiau addas cael ei gwisgo mae cotiau gwrthddwr yn hanfodol. Cynghorwn i blant gwisgo dillad bob dydd.

 

Iechyd a Diogelwch

Cynghorwch ni ynglŷn ag unrhyw blentyn sydd gydag alergedd, cyflwr meddygol neu anghenion arbennig.

 

Mae asesiad risg ar gyfer y sesiwn addysg yn cael ei ddarparu i’r ysgol gyda’r llythyr bwcio. Darllenwch y ddogfen yn ofalus ac os oes gennych unrhyw gwestiynau yna cysylltwch â ni.  Rhaid pwysleisio taw fod bodolaeth yr asesiad risg ar gyfer y sesiwn gan Gastell Henllys ddim yn eithrio ysgolion o’u chyfrifoldeb. Rhaid i staff yr ysgolion cwblhau’r gwaith papur angenrheidiol, gan gynnwys asesiad risg, fel rhan o ofyniadau eu LEA neu gorff llywodraethu.

Mae’r ddyletswydd gofal cyfreithiol am y drefniadaeth ddiogel a throsglwyddo’r sesiwn yn gorwedd gyda staff Castell Henllys. Ond mae’r prif gyfrifoldeb am ofal, ymddygiad a rheolaeth y disgyblion dan ofal yr arweinydd o’r ysgol ar bob adeg yn ystod yr ymweliad.

 

Tywydd Garw

Os ar ddiwrnod eich ymweliad mae yna rybudd tywydd Melyn (am unrhyw dywydd) wedi’i gyhoeddi neu’i rhagolygi gan y Met Office am ardal SA41, bydd y safle yn galw’r ysgol diwrnod cyn eich ymweliad i gynghori os dylai’r ymweliad mynd yn ei flaen.

Os mae yna rybudd Ambr (am unrhyw dywydd) wedi’i gyhoeddi neu wedi’i rhagolygi gan y Met Office am ardal SA41 ar ddiwrnod eich ymweliad, bydd y safle yn galw’r ysgol i ganslo’r ymweliad a’i ail-drefnu.

Os mae tywydd garw yn effeithio ardal eich ysgol a’ch gallu i ymweld â’r safle, yna cynghorwch ni o’r sefyllfa mor gynted â phosib.

 

Newid neu Ganslo eich Sesiwn

Weithiau fydd amgylchiadau yn newid lle fydd hi’n angenrheidiol i nai llai Castell Henllys neu’r ysgol i ganslo ac ail-drefnu’r ymweliad. Yn yr ystod hon mae’n bwysig i’r ddau barti cael gwybod y sefyllfa mor gynted â phosib. Os hoffwch ganslo neu ail-drefnu yna cysylltwch gyda ni gyda manylion eich ymweliad. Unwaith mae’r newidiadau wedi’u gadarnhau bydd llythyr archeb newydd yn cael ei ddanfon i chi.

Fydd unrhyw ganslad o fewn 48 awr o’r sesiwn yn derbyn ffi gweinyddiad.

Ni fydd ffi os rheswm y canslad yw tywydd garw yn effeithio’r ysgol.

Ar ddiwrnod eich ymweliad

Cyfarwyddiadau i Yrwyr Bysus

Gweler tudalen diwethaf y ddogfen am fwy o wybodaeth os rydych yn teithio trwy Gaerfyrddin.

 

Cyrraedd

Disgwylir i’r ysgol i gyrraedd y safle ar yr amser y cytunwyd yn barod i gyflawni’r sesiwn. Ffoniwch ni os mae yna unrhyw oedi. Os fyddwch yn cyrraedd yn hwyr byddwn yn ymdrechu i gyflawni’r sesiwn ond mae gennym yr hawl i addasu’r sesiwn i alluogi’r disgyblion profi rhan fwyaf o’r gweithgareddau.

Wrth gyrraedd dylai bysus parcio wrth ymyl Eglwys St Dogfael lle fydd aelod o staff Castell Henllys yn disgwyl amdanoch. Os nad yw aelod o staff Castell Henllys yn bresennol wrth i chi gyrraedd, arhoswch ar y bws nes iddynt gyrraedd.

 

Amlinelliad cyffredinol o’r dydd

  • 10.30am: Cyrraedd a Chyfeiriadaeth
  • 10.40am: Stop toiled a theithio dol mewn amser
  • 10.50am: Cyrraedd y pentref, croeso a rhoi disgyblion mewn i grwpiau
  • 11am: Gweithgaredd 1
  • 11.30am: Gweithgaredd 2
  • 12 canol dydd: Egwyl Cinio (20-30munud)
  • 12:30pm: Gweithgaredd 3
  • 1pm: Gweithgaredd 4
  • 1.30pm: Casglu bagiau, gadael y pentref, teithio nôl i’r presennol
  • 1.45pm: Stop toiled a cherdded nôl i’r bws
  • 2pm: Gadael

Ymddygiad

Cyfrifoldeb arweinydd y grŵp ysgol yw sicrhau ymddygiad addas y grŵp yn ystod yr ymweliad ac i gynorthwyo staff Castell Henllys i reoli’r grŵp. Cofiwch fydd aelodau o’r cyhoedd ar y safle hefyd yn ystod eich ymweliad. Os yn ystod wich ymweliad fydd staff Castell Henllys yn barnu ymddygiad y grŵp i fod yn anniogel neu yn anaddas bydd yr hawl ganddynt i ddod a’r gweithgaredd i ben.

 

Taliad

Gall ysgolion talu ar ddiwrnod yr ymweliad neu dderbyn anfoneb ar ôl yr ymweliad. Y gost yw £4.50 (+VAT) y plentyn. Mae’r oedolion sy’n goruchwylio yn cael dod am ddim. Cadarnhewch y nifer o ddisgyblion a fydd yn mynychu’r sesiwn 2 diwrnod cyn yr ymweliad- byddwch yn derbyn anfoneb am y nifer o blant ar y ffurflen bwcio heblaw cawn wybod am unrhyw newid.

 

Siop

Os allwch gadael i ni gwybod cyn llaw os ydych am ymweld a’r siop ar diwedd eich ymweliad a Castell Henllys. Ar yn ail, fe all ysgolion archebu pac gwerth £3, £4 neu £5 cyn llaw eich ymweliad.

 

Sbwriel

Er mwyn cadw at y rhith o deithio nôl mewn amser, nid oes biniau sbwriel yn y pentref. Os gwelwch yn dda, gofynnwch i’r plant i roi unrhyw wastraff yn ôl yn ei bagiau/ pecynnau bwyd i fynd adref gyda nhw i ailgylchu.

 

Cyfarwyddiadau i Fysus sydd yn dod i Gastell Henllys trwy Gaerfyrddin

  1. Cymerwch yr A40 allan o Gaerfyrddin tuag at Sir Benfro. Gan ddilyn arwyddion i Abergwaun.
  2. Arhoswch ar y A40 am 18.1 o filltiroedd.
  3. Trowch i’r dde ymlaen i A478 gan ddilyn yr arwydd i Aberteifi
  4. Arhoswch ar A478 am 15.2 o filltiroedd
  5. Trowch i’r chwith ymlaen i’r B4332 gan ddilyn yr arwydd i Eglwyswrw
  6. Dilynwch y ffordd yma am 3.4 o filltiroedd
  7. Trowch i’r chwith ar y gyffordd yn Eglwyswrw ymlaen i’r A487
  8. Dilynwch A487 am 1.5 o filltiroedd i’r arwydd brown Castell henllys
  9. Trowch i’r dde a ewch lawr y ffordd i’r maes parcio’r bysus wrth ymyl yr eglwys.