Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn lle gwych a ddylai fod ar gael i bawb, a gall gynnig cyfleoedd gwych i bobl ifanc ddatblygu sgiliau a dysgu mwy am fyd natur. Mae hyn yn bwysig iawn wrth i bobl ifanc barhau i wynebu heriau Newid yn yr Hinsawdd, colli bioamrywiaeth, natur wledig a nawr dod dros Covid-19.
Parc Pwy? Ein Parc Ni!
Mae’r dudalen hon wedi cael ei chreu gan Bwyllgor Ieuenctid a Pharcmyn Ifanc y Parc Cenedlaethol, gan uno o dan yr enw Cenhedlaeth Nesaf y Parc Cenedlaethol.
Rydyn ni eisiau dangos i chi’r gwahanol ffyrdd y mae pobl ifanc yn gwneud gwahaniaeth i’r Parc Cenedlaethol a’i ddyfodol, ac rydyn ni’n eich annog chi i ymuno â ni!
Os ydych chi eisiau helpu gyda thasgau ymarferol, mynd i’r afael â materion lleol a byd-eang drwy siarad â’r rheini sy’n gyfrifol neu hyd yn oed ychydig o’r ddau, gallwch ein helpu ni i newid y Parc Cenedlaethol er gwell.
Pam cymryd rhan?
Mae iechyd meddwl hefyd yn her fawr sy’n wynebu pobl ifanc heddiw, a gall cymryd rhan mewn prosiect fel Cenhedlaeth Nesaf y Parc Cenedlaethol helpu pobl ifanc gyda’r Pum Ffordd at Les:
Gwobr Dug Caeredin
Mae ein Parcmyn yn cynnal sesiynau cadwraeth ymarferol i bobl ifanc sy’n cwblhau Gwobr Dug Caeredin. I gael gwybod pryd a ble mae’r sesiynau hyn, cysylltwch â Dave Sommerville yng Nghyngor Sir Penfro drwy e-bostio david.sommerville@pembrokeshire.gov.uk neu ffonio 01437 775235 neu 07970 758977.
Dolenni perthnasol
Dolenni cyflym i wybodaeth am brosiectau a chyhoeddiadau Cenhedlaeth Nesaf y Parc Cenedlaethol