Newid Hinsawdd a Hawliau Plant

Planed Pwy? Ein Planed ni! Dyfodol pwy? Ein Dyfodol ni!

Mae gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn faes blaenoriaeth i’r Pwyllgor Ieuenctid, ac mae’r Pwyllgor am i bobl ifanc eraill fod yn fwy ymwybodol o’i effeithiau a’r pethau y gall pobl eu gwneud i helpu.

Yn ystod cyfnod clo Covid-19 yn 2020, clywodd y Pwyllgor Ieuenctid am ymgyrch Outright 2020 UNICEF sy’n canolbwyntio ar yr effaith mae newid hinsawdd yn ei chael ar hawliau plant, a llwyddodd i gael cyllid gan Fanc Ieuenctid Sir Benfro i greu ffilm wedi’i hanimeiddio i dynnu sylw at hyn. Buon nhw’n gweithio ar y ffilm dros y gaeaf a dechrau 2021.

Roedd aelodau’r Pwyllgor Ieuenctid wedi dangos y ffilm i bobl ifanc a llunwyr penderfyniadau eraill adeg COP26 ac Wythnos Hinsawdd Cymru 2021.

Gall aelodau o’r Pwyllgor Ieuenctid ddod i gymryd rhan mewn gweithdy sy’n defnyddio’r fideo i godi ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc eraill yn yr ysgol neu mewn lleoliadau eraill i bobl ifanc – anfonwch e-bost at nextgeneration@pembrokeshirecoast.org.uk i drafod trefnu gweithdy o’r fath. Ewch i wefan UNICEF i gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch Outright 2020.

“Mae Pwyllgor Ieuenctid Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gwybod bod Newid yn yr Hinsawdd yn digwydd nawr ac mai’r cenedlaethau nesaf fydd yn gorfod delio â’i effeithiau.

“Fe wnaethon ni gymryd rhan yn Ymgyrch Outright UNICEF 2020 i helpu i daflu goleuni ar effaith newid yn yr hinsawdd ar Hawliau Plant – pwnc na soniwyd amdano erioed yn yr hyn rydyn ni’n ei glywed gan arweinwyr y Byd – ac felly roedden ni eisiau creu ffilm i godi ymwybyddiaeth.

“Mae gan bob plentyn hawl i fyw’n ddiogel mewn amgylchedd teuluol, gyda mynediad at ddŵr glân ac addysg briodol. Mae newid yn yr hinsawdd yn bygwth yr hawliau hyn i blant ar draws y byd. Wrth i’r byd gynhesu ac wrth i ardaloedd fynd yn anoddach byw ynddynt, bydd llawer o blant yn dod yn ffoaduriaid hinsawdd ac o bosibl yn cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd.

Yn ogystal â hyn, bydd Newid yn yr Hinsawdd yn arwain at gynnydd mewn tlodi plant ac o ganlyniad bydd llawer o blant yn cael eu gorfodi i fyw bywyd na ddylai unrhyw blentyn orfod byw. Hyd yn oed nawr, amcangyfrifir bod ffactorau amgylcheddol yn cymryd bywydau 1.7 miliwn o blant dan 5 oed bob blwyddyn (UNICEF).

“Does gan lawer o blant a phobl ifanc yn y DU ddim syniad clir o’r effaith mae Newid yn yr Hinsawdd yn ei chael ar ein cenhedlaeth ni – rydyn ni’n awyddus i gydweithio â sefydliadau lleol er mwyn helpu i ysgogi brwdfrydedd amgylcheddol ymysg y cenedlaethau iau, gan roi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar blant a phobl ifanc i weithio at fyw dyfodol mwy cynaliadwy.

“Credwn ei bod yn hanfodol sicrhau bod pob unigolyn ifanc yn dysgu sut mae pob gweithred yn arwain at ganlyniadau ehangach. Dim ond drwy addysgu cenedlaethau iau am y materion a’u cefnogi i wneud gwell dewisiadau amgylcheddol a byw’n gynaliadwy y byddwn yn ennill y frwydr yn erbyn Newid yn yr Hinsawdd.

“Bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bawb – mae angen newid NAWR. Mae angen i wleidyddion a Chorfforaethau gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd neu eu diffyg gweithredu. Gobeithio bydd y fideo hwn yn helpu i newid hynny, hyd yn oed mewn ffordd fach – dyma EIN PLANED ac EIN DYFODOL!”