Os ydych chi’n mwynhau cerdded ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac yr hoffech gefnogi’r gwaith caled sy’n cael ei wneud i gynnal y tirlun godidog hwn, gallwch yn awr helpu drwy roddi i’n cynllun Noddi Iet.
Mae yna dros 100 o ietau ar gael i’w noddi ar hyd Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Rhoddir plac personol ar bob iet a gaiff ei noddi, gan roi ichi’r dewis o noddi iet er cof am anwylyd, fel rhodd i rywun arbennig, drwy eich cwmni neu hyd yn oed yn eich enw ei hun.
Prif fanylion y cynllun:
- Mae pob iet yn costio £600 i’w noddi.
- Y cyfnod noddi fydd 10 mlynedd.
- Fel rhan o’r broses noddi caiff pob noddwr gynnig plac personol y bydd y Parc Cenedlaethol yn ei osod ar y iet a noddir.
- Bydd yr incwm a gynhyrchir gan y cynllun Noddi Iet yn cyfrannu at y gwaith o gynnal a chadw’r Llwybr Arfordir godidog ac ardal ehangach Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
- Mae’r geiriau canlynol ar gael ar gyfer y placiau:
– ‘Er cof am…(enw)’
– ‘Noddwyd gan…(enw)’
– ‘Rhoddwyd gan.(enw)’
Os hoffech chi Noddi Iet, lawrlwythwch y ffurflen gais a’i dychwelyd at ein Swyddog Ariannu Allanol, drwy e-bost.
Neu drwy’r post i:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro
SA72 6DY
Taliadau
Cewch dalu gyda siec, yn daladwy i ‘Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro’ a’i hanfon i’r cyfeiriad uchod. Os nad ydych yn postio’r ffurflen gais, dylid cynnwys nodyn gyda’r sieciau, gan gyfeirio at y cynllun a lleoliad y gât y mae’r unigolyn yn ei noddi.
Gallwch hefyd dalu drwy gerdyn debyd/credyd, drwy ffonio’r Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01646 624800.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun ‘Noddi Iet’ cysylltwch â ni drwy ffonio 01646 624825 neu e-bostio ein Swyddog Ariannu Allanol, drwy e-bost.
Meinciau
Nid oes gennym feinciau ar gael i’w noddi. Ein polisi cyffredinol yw peidio â rhoi gormod o ddodrefn ar ein Llwybr Arfordir a chynnal ei dirwedd hardd a digyffwrdd.