Mae’r dudalen hon yn rhoi’r wybodaeth gychwynnol a allai fod yn ddefnyddiol i’r rheiny sydd â diddordeb mewn ffilmio ar dir ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Perchnogaeth y Parc Cenedlaethol
Nid yw Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae’r Awdurdod yn berchen ar barseli o dir o fewn y Parc, ynghyd â llawer o berchnogion tir eraill. Dylid cael caniatâd gan y perchennog tir perthnasol cyn ffilmio. Os ydych chi’n dymuno ffilmio ar dir Awdurdod y Parc Cenedlaethol, efallai y codir tâl, ac efallai y bydd gofyn i chi lofnodi cytundeb trwydded.
Newydd i Arfordir Penfro
Mae Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi’i ychwanegu at Google Street View a gellir ei weld drwy ein tudalen Cerdded Llwybr yr Arfordir ar Google Street View.
Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch, fe fyddwn yn hapus i’ch helpu. Mae croeso i chi gysylltu â Thîm Cyfathrebu Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar 01646 624800 neu e-bostiwch cyfathrebu@arfordirpenfro.org.uk.
Lleoliadau allweddol ble mae’r tir yn eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Sylwer: Bwriedir yr wybodaeth hon fel canllaw – bydd angen i chi holi i weld os yw’r union leoliad yr ydych yn ei ystyried dan ein perchnogaeth ni. I weld map yn dangos yr holl ardaloedd y mae Awdurdod y Parc yn berchen arnynt neu’n eu rheoli, ewch i’n tudalen ffilmio.
- Traethau
- Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn prydlesu bron y cyfan o’r blaendraeth (ardal rhwng y marciau llanw uchel ac isel, wedi’i amlinellu mewn melyn ar y map ar ein tudalen ffilmio) ar hyd Arfordir Penfro gan Ystâd y Goron (y perchnogion). Felly, os ydych chi am ffilmio ar y blaendraeth, cysylltwch ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol i drafod caniatâd. Mae yna sawl lleoliad allweddol nad yw’r Awdurdod yn eu prydlesu, sef Llanrhath a thraethau’r Gogledd, y De a’r Castell yn Ninbych-y-pysgod, ac mae’r rhain yn cael eu rheoli gan Gyngor Sir Penfro, y gellir cysylltu â nhw drwy e-bostio PressPublicRelations@pembrokeshire.gov.uk.
- Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro – the Park Authority only owns small pockets of land along the Path – they are included in the areas outlined in red on the map on our filming page.
- Mae Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn 186 milltir o hyd, ac yn ymlwybro o Lanrhath yn y de i Landudoch yn y gogledd. Mae’n pasio ar draws traethau a thrwy drefi a phentrefi. Dim ond pocedi bach o dir ar hyd y Llwybr sy’n eiddo i Awdurdod y Parc. Mae adrannau gwahanol o’r Llwybr yn eiddo i fudiadau ac unigolion amrywiol, felly sylwer nad yw’n bosib cael caniatâd cyffredinol i ffilmio ar hyd Llwybr yr Arfordir yn ei gyfanrwydd. Os hoffech chi ffilmio mewn lleoliad penodol ar Lwybr yr Arfordir, ac nid ydych yn siŵr beth yw’r sefyllfa o ran perchnogaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni. I gael rhagor o wybodaeth am Lwybr yr Arfordir, ewch i wefan Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro.
- Castell a Melin Heli Caeriw – rheolir y safle gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Castell Caeriw.
- Pentref Oes Haearn Castell Henllys – Awdurdod y Parc Cenedlaethol sy’n berchen ar y safle ac yn ei reoli. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Castell Henllys.
- Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc – Awdurdod y Parc Cenedlaethol sy’n berchen ar y safle ac yn ei reoli. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Oriel y Parc.
- Bryniau’r Preseli (adwaenir hefyd fel Mynyddoedd y Preseli) – mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn berchen ar ddarnau bach o dir (maen nhw wedi’u cynnwys yn yr ardaloedd a amlinellir mewn coch ar y map ar ein tudalen ffilmio) ond mae’r mwyafrif helaeth yn eiddo preifat.
- Meysydd parcio ac ardaloedd parcio – mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn rheoli tua 40 o feysydd parcio a mannau parcio; rydym yn codi tâl ar 14 o’r rhain (sydd wedi’u cynnwys yn yr ardaloedd a amlinellir mewn coch ar y map ar ein tudalen ffilmio). Am fwy o wybodaeth edrychwch ar ein tudalen parcio.
Cysylltiadau defnyddiol eraill ar gyfer perchnogion tir
Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys pawb ac fe’i bwriedir fel man cychwyn i ymchwilwyr yn unig.
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – am ragor o wybodaeth ewch i wefan Lleoliadau Ffilmio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (agor mewn ffenest newydd) neu edrychwch ar Fap Tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (agor mewn ffenest newydd).
- Cyngor Sir Benfro – e.e. ar gyfer Traethau Dinbych-y-pysgod. Am ragor o wybodaeth e-bostiwch ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
- Cyfoeth Naturiol Cymru – e.e. ar gyfer Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ty Canol. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (agor mewn ffenest newydd)
- RSPB – e.e. ar gyfer Ynys Dewi. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan y RSPB (agor mewn ffenest newydd)
- Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru – e.e. ar gyfer Ynys Sgomer. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan yr Ymddiriedolaethau Natur (agor mewn ffenest newydd)
- Y Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) – – meysydd tanio Castellmartin, Penalun a Maenorbŷr. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Landmarc (agor mewn ffenest newydd)
- Goleudy Pen Cae – mae’r goleudy yn eiddo i Trinity House. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Trinity House (agor mewn ffenest newydd). Mae’r Parc Cenedlaethol yn rheoli’r tir yn union o amgylch y goleudy a’r maes parcio.
- Cromlech Pentre Ifan – Cadw. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cadw (agor mewn ffenest newydd).
Llefarwyr ar ran y Parc Cenedlaethol
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn hapus i ddarparu staff i wneud cyfweliadau ar lawer o destunau o fewn cylch gwaith y Parc Cenedlaethol, gan
gynnwys:
- Gwarchod bywyd gwyllt a natur
- Hamdden
- Cynllunio (rheoli datblygiad)
- Diwylliant a threftadaeth
- Archaeoleg
- Cefnogi busnesau a thwristiaeth
- Rhaglen addysg awyr agored ac estyn allan
- Manteision iechyd a lles bod allan yn yr awyr agored
- Cynhwysiant cymdeithasol
Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys popeth; cofiwch ofyn os ydych chi’n credu y gallwn ni helpu. Ffoniwch 01646 624800 neu e-bostiwch cyfathrebu@arfordirpenfro.org.uk.