Gwirfoddoli

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn awyddus i annog pobl i gymryd rhan mewn sawl agwedd ar ei waith, ac mae nifer o resymau pam fod pobl yn penderfynu gwirfoddoli.

Mae rhai yn gwirfoddoli i gadw’n heini ac yn brysur, rhai i ddysgu a datblygu sgiliau newydd a rhai i roi rhywbeth yn ôl i’r Parc Cenedlaethol ac i’w cymunedau lleol.

Mae pobl eraill yn gwirfoddoli i wella eu hiechyd neu i fynd allan a chyfarfod pobl newydd a bod yn aelod o dîm.

Beth bynnag fo rhesymau pobl dros wirfoddoli yn y Parc Cenedlaethol, maen nhw’n credu ei fod yn hwyl, yn heriol ac yn werthfawr.

RYDYM WRTHI'N RECRIWTIO AR GYFER Y ROLAU GWIRFODDOLI HYN

  • Gwirio’r cadeiriau olwyn traeth ac offer symudedd arall
  • Helpu yn yr oriel a / neu adrodd straeon yn Oriel y Parc
  • Cynnal a chadw’r ardd perlysiau ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys

Os hoffech chi wybod mwy am y rolau uchod, llenwch y ffurflen ymholiad.

Mae cyfleoedd gwirfoddoli ychwanegol ar gael. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd oedi i’r dyddiadau cychwyn.

Cofrestrwch eich diddordeb

  • I gofrestru eich diddordeb mewn gwirfoddoli cliciwch yma

Cysylltwch â Ni

Gwirfoddoli gyda ni

Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd i wirfoddoli, a dros y blynyddoedd nesaf bydd mwy fyth ar gael.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwaith cadwraeth ymarferol, ennyn diddordeb pobl leol ac ymwelwyr yn ein gweithgareddau a'n digwyddiadau, neu weithio yn un o'n safleoedd, canolfannau neu yn ein pencadlys, mae gennym ni gyfleoedd gwirfoddoli i bawb