Os hoffech wirfoddoli ar amser sy’n gyfleus i chi, a gwirfoddoli ar eich pen eich hun neu gyda ffrind, efallai y bydd un o’n cyfleoedd gwirfoddoli hyblyg neu ficro yn addas i chi.
- Warden coed – cadw golwg ar gyflwr coed arbennig yn eich ardal ac adrodd yn ôl. Sawl cyfle hyfforddi.
- Gwarcheidwad treftadaeth – monitro ein hasedau treftadaeth ac adrodd ar eu cyflwr. Darperir hyfforddiant.
Micro-Wirfoddoli
Nid oes rhaid i bob gwirfoddoli fod yn drefnus nac yn ffurfiol. Mae micro-wirfoddoli yn rhywbeth y gallwch ei wneud mewn talpiau bach, bach, heb fod angen cofrestru. Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi helpu, sdim ots faint o bobl sy’n ymuno, gorau po fwyaf. Gallwch wneud y pethau hyn ar eich pen eich hun, gyda’ch ffrindiau neu’ch teulu, neu fel rhan o grŵp cymunedol.
LookWild
Helpwch i gofnodi natur. Pan fyddwch allan yn yr awyr agored, edrychwch yn agosach ar eich amgylchoedd. Tynnwch lun o blanhigion neu greaduriaid gwyllt ac yna lanlwythwch nhw i’r prosiect LookWild (yn agor mewn ffenest newydd).
Dros amser, gyda chyfraniadau gan y cyhoedd, byddwn yn creu darlun da o’r bywyd gwyllt sy’n byw yn Sir Benfro ac yn y 14 Parc Cenedlaethol arall ar draws y DU.
Sut i gymryd rhan:
- Lawrlwythwch yr ap iNaturalist (agor mewn ffenestr newydd)
- Ymunwch â phrosiect LookWild
- Tynnwch lun
- Llwythwch eich arsylwad i fyny
- Ychwanegwch gymaint o wybodaeth ag y gallwch.
Pam ddylwn i gymryd rhan?
- Byddwch yn rhan o Brosiect Cenedlaethol ar draws holl Barciau Cenedlaethol y DU
- Bydd eich arsylwadau’n helpu i ddangos beth sy’n digwydd i adar, chwilod, ffyngau, blodau a choed ar lefelau lleol a chenedlaethol a gallent lywio gwaith cadwraeth natur yn y dyfodol.
- Mae’n hwyl i deuluoedd ac ymwelwyr newydd â’r Parciau Cenedlaethol, ac yn gyflwyniad da i wirfoddoli
- Dysgwch fwy am y bywyd gwyllt o’ch cwmpas
- Mae bod yn yr awyr agored ac yn agosach at natur yn dda i chi.
Person yn defnyddio ffôn clyfar i adnabod blodau gwyllt Gwirfoddolwr yn defnyddio ap iNaturalist i adnabod planhigyn.
Arfordir ar Daith
Helpwch ni i gofnodi’r newidiadau i’n harfordir trwy dynnu llun ar un o’n safleoedd ffotograffio sefydlogo a’i rannu gyda ni. Am ragor o wybodaeth ewch i’n tudalen Arfordir ar Daith.
Post ffotograffiaeth Arfordir ar Daith yn Abereiddi.
Codi sbwriel
Pan fyddwch chi’n mynd am dro, neu’n ymweld â thraeth, parc neu ardal bicnic gallech chi godi unrhyw sbwriel a welwch. Cadwch bâr o fenig a bag yn eich car neu sach gefn pan fyddwch chi allan.
Chwiliwch am fyrddau glanhau traeth 2 funud ar draethau lleol neu gallwch fenthyg offer codi sbwriel o Oriel y Parc neu ganolfan hamdden leol. I gael rhagor o wybodaeth am hybiau casglu sbwriel eraill yng Nghymru ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus (yn agor mewn ffenest newydd).