Os ydych chi'n hoffi gweithio gyda phobl a mwynhau cael eich dwylo'n fudr, gallai'r rolau hyn fod o ddiddordeb i chi.
Wardeiniaid Gwirfoddol
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cael cymorth amhrisiadwy gan grŵp o Wardeiniaid Gwirfoddol sy’n cymryd rhan mewn rhaglen eang o dasgau ymarferol a chadwraethol gyda’u Parcmon lleol yn y Parc Cenedlaethol. Mae’r wardeiniaid hefyd yn darparu cyswllt gwerthfawr â chymunedau lleol ac yn aml maen nhw’n cynnig syniadau ar gyfer gwaith y Parc Cenedlaethol yn y dyfodol.
Mae tasgau’r Wardeiniaid Gwirfoddol yn cynnwys:
- Clirio a llosgi prysgoed ar safleoedd cadwraeth
- Cynnal a chadw hawliau tramwy; torri llystyfiant, agor ffosydd, cynnal a chadw pontydd, gosod clwydi, arwyddion a grisiau
- Plannu coed a chynnal a chadw coed
- Rheoli rhywogaethau goresgynnol; tynnu Jac y Neidiwr (Himalayan Balsam), torri a llosgi rhododendron
- Codi perthi a gwaith ffensio
- Codi sbwriel a chlirio blerwch
- Monitro cyflwr llwybrau troed neu safleoedd
- Helpu i gynnal arolygon o fywyd gwyllt, ymwelwyr neu rywogaethau goresgynnol.
Llwybrau
Mae Llwybrau yn cael ei redeg gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, a’i nod yw helpu mwy o bobl i dreulio amser yn yr awyr agored drwy ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddi a dysgu yn y Parc Cenedlaethol a’r cyffiniau.
Mae’r prosiect wedi cael ei ddylunio i gael gwared â rai o’r rhwystrau sy’n wynebu pobl ifanc sydd eisiau mynd allan ac archwilio cefn gwlad yn lleol, ac mae’n darparu trafnidiaeth ar gyfer nifer o’r gweithgareddau.
Mae gwirfoddolwyr Llwybrau yn mynd i’r afael â thasgau ymarferol, sy’n cynnwys trwsio llwybrau troed, gosod perthi, rheoli glaswelltir a choetir, a phrosiectau cadwraethol eraill o amgylch Sir Benfro. Dyw’r gwaith ddim yn gorfforol i gyd – mae amser i gael dysglaid ac ymlacio os oes angen.
Fel arfer cynhelir sesiynau ar ddydd Gwener o 9.30am-3pm. Mae’r bws mini yn gadael o Archifdy Sir Benfro yn Hwlffordd.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â Llwybrau fel unigolyn, cysylltwch â Mitch Hill drwy ebostio MitchellH@pembrokeshirecoast.org.uk neu ffoniwch 07866 771169.
Cynllun Cynaliadwy Rhywogaethau Estron Goresgynnol Pwyth mewn Pryd
Y bwriad yw lleihau niferoedd y rhywogaethau goresgynnol yn sylweddol – yn benodol Jac y Neidiwr (Himalayan Balsam), rhododendron a Chlymog Japan (Japanese Knotweed) yn y Parc Cenedlaethol a’r cyffiniau.
Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar Gors Castellmartin (y nant sy’n llifo i Freshwater West) ac Afon Clydach yng ngogledd Sir Benfro.
Tasg fawr yw cael gwared ar rywogaethau goresgynnol, felly byddai’n addas i grwpiau cymunedol o fewn ardaloedd y prosiect. Byddem ni’n ddiolchgar o gael cymorth gan unigolion hefyd. Bydd tasgau’n cael eu gosod ar gyfer y gwaith ymarferol, ond hefyd ar gyfer cofnodi data a chynnal arolygon ecolegol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Matt Tebbutt, Cydlynydd Pwyth mewn Pryd ar MatthewT@pembrokeshirecoast.org.uk.
Gwirfoddoli i Bobl Ifanc
Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn lle gwych a ddylai fod ar gael i bawb, a gall gynnig cyfleoedd gwych i bobl ifanc ddatblygu sgiliau a dysgu mwy am fyd natur. Mae hyn yn bwysig iawn wrth i bobl ifanc barhau i wynebu heriau Newid yn yr Hinsawdd, colli bioamrywiaeth, natur wledig a nawr dod dros Covid-19.
Os ydych chi eisiau helpu gyda thasgau ymarferol, mynd i’r afael â materion lleol a byd-eang drwy siarad â’r rheini sy’n gyfrifol neu hyd yn oed ychydig o’r ddau, gallwch ein helpu ni i newid y Parc Cenedlaethol er gwell.
I ddarganfod mwy am gyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc, ewch i dudalennau Pwyllgor Ieuenctid y Parc Cenedlaethol a’r Parcmyn Ifanc, sy’n uno dan yr enw Cenhedlaeth Nesaf y Parc Cenedlaethol.
Gwobr Dug Caeredin
Mae ein Ceidwaid yn cynnal sesiynau cadwraeth ymarferol i bobl ifanc sy’n cwblhau Gwobr Dug Caeredin. I gael gwybod pryd a ble mae’r sesiynau hyn yn cael ei gynnal, cysylltwch â Dave Sommerville yng Nghyngor Sir Penfro drwy e-bostio david.sommerville@pembrokeshire.gov.uk neu ffonio 01437 775235 neu 07970 758977.