Gwreiddiau i Adferiad

Mae Gwreiddiau i Adferiad yn brosiect newydd sydd wedi'i arwain gan bobl, sy’n ymwneud â phwerau adferol awyr agored anhygoel Sir Benfro ac yn enwedig ei Pharc Cenedlaethol.

Cyflwynir Gwreiddiau i Adferiad mewn partneriaeth gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Mind Sir Benfro a’i gefnogi trwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol tan fis Medi 2024.

Mae rhaglen o weithgareddau ar gael o’n ‘hybiau’ yng Nghanolfan Adnoddau Mind Sir Benfro yn Hwlffordd a Neuadd y Dref, Penfro. Mae’r prosiect yn cynnwys mentoriaid sy’n cefnogi cyfranogwyr a gweithgareddau eraill sy’n digwydd o’r hybiau. 

Dyluniwyd ein gweithgareddau i fod yn hygyrch, yn hwyl ac weithiau’n hamddenol, gyda’r cyfle i ddysgu sgiliau newydd a chwrdd â ffrindiau newydd. Gallai rhaglen nodweddiadol gynnwys:

  • Teithiau cerdded (ar gyfer ystod o alluoedd)
  • Celf a chrefft gyda thema awyr agored, gyda rhai sesiynau dan do ar gyfer pan nad ydy bod allan yn yr awyr agored yn bosibl
  • Cymryd rhan mewn prosiectau lleol fel gerddi cymunedol – gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ac i natur
  • Gwirfoddoli yn y Parc Cenedlaethol a’r cyffiniau gyda chyfranogwyr Gwreiddiau i Adferiad eraill
  • Y cyfle i bobl archwilio’r awyr agored gwych ar stepen eu drws a’r Parc Cenedlaethol anhygoel nad yw fawr ymhellach i ffwrdd.

Gallwch ddewis gwneud cymaint neu gyn lleied o’r hyn sydd ar gael, ond dim ond leoedd cyfyngedig ar gael.

Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod i ddarganfod mwy.

 

Man standing in wooded area with arms up in the air. Image includes logos of the National Lottery Community Fund, Pembrokeshire Coast National Park Authority and Mind Pembrokeshire

Manylion cyswllt

Mind Sir Benfro

Sara Walters (cefnogaeth i gyfranogwyr, cymryd rhan)

 

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Tom Iggleden (Swyddog Gwreiddiau i’r Adferiad – yn arwain ar y Rhaglen Weithgareddau, gwaith ymarferol)

Gwirfoddoli yn y Parc Cenedlaethol