Os ydych chi’n treulio pedwar diwrnod (neu o leiaf 24 awr) neu fwy gyda’ch teulu, yn darganfod llefydd gwyllt, eu harchwilio, eu gwarchod a’u rhannu, yna fe allech chi ennill Gwobr John Muir Deuluol Arfordir Penfro.
Cynllun gwobrau amgylcheddol yw Gwobr John Muir ac mae’n canolbwyntio ar lefydd gwyllt. Mae’n annog pobl o bob cefndir i feithrin cysylltiad gyda llefydd gwyllt, eu mwynhau a gofalu amdanynt a gellir ei chwblhau dros wythnos, chwe mis neu fwy.
Rydym wedi cynhyrchu taflen i deuluoedd sy’n cynnwys popeth fydd ei angen arnoch i wneud Gwobr John Muir Deuluol Arfordir Penfro. Cliciwch y ddolen i lawrlwytho’r taflen ar gyfer ein Gwobr John Muir Deuluol.
Gallwch rhannu eich siwrnai ar gyfer Gwobr John Muir yn y grŵp Facebook.
Dyma ffordd arbennig o hyblyg i deuluoedd brofi’r awyr agored, dysgu am natur a gofalu am ein llefydd gwyllt, godidog.
Ac fe all bob un gymryd rhan, o rai bach i bobl ifanc yn eu harddegau, i oedolion, mam-gu a thad-cu, parau a chefndryd, modrybedd ac ewyrth, egin anturiaethwyr ac anturiaethwyr profiadol!
Gwyliwch y fideos ar sianel Youtube ‘John Muir Award’ i gael llawer o syniadau am yr hyn allech chi ei wneud.
Am gyngor, mae croeso i chi ebostio ni neu ffonio Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar 01646 624800 a gofyn am y Tîm Darganfod a fydd yn hapus i siarad â chi.
Gallwch hefyd galw heibio i un o ganolfannau’r Parc Cenedlaethol (Castell Caeriw, Castell Henllys neu Oriel a Chanfolan Ymwelwyr Oriel y Parc) i gael ragor o wybodaeth.
Cwblhau’r Wobr
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dangos y dystiolaeth i ni eich bod chi wedi treulio o leiaf 4 niwrnod yn darganfod llefydd gwyllt, eu gwarchod a’u rhannu. Gallwch gadw cofnod ar bapur, tynnu ffotograffau neu wneud fideo am yr hyn fuoch chi’n ei wneud. Dewch â’ch tystiolaeth i un o’n canolfannau neu e-bostiwch ein Tim Darganfod.
Ynglŷn â John Muir
Anturiaethwr oedd John Muir ond roedd hefyd yn awdur ac yn amgylcheddwr, ac fe gynorthwyodd i sefydlu’r Parc Cenedlaethol cyntaf erioed.
Darperir Gwobr John Muir gan Ymddiriedolaeth John Muir, elusen gadwraeth sydd wedi ymrwymo i warchod a gwella llefydd gwyllt.
Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth John Muir i annog teuluoedd a grwpiau i gwblhau’r wobr yn Sir Benfro.