Ymgynghoriad y Parc Cenedlaethol yn dechrau ar y cynnig i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 i ddileu hawliau datblygu a ganiateir ar ddefnydd o dir am hyd at 28 diwrnod ar gyfer gwersylla, charafannau a chartrefi symudol.
Beth yw Cyfarwyddyd Erthygl 4(1)?
Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn tynnu’n ôl y caniatâd cynllunio y mae’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir yn ei roi ar gyfer dosbarth o ddatblygiad. Caniateir i gyfarwyddyd o’r fath gael ei wneud gan Awdurdod Cynllunio Lleol neu gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 4 o’r gorchymyn hwnnw. Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol rai Cyfarwyddiadau Erthygl 4 eisoes ar waith mewn perthynas ag Ardaloedd Cadwraeth er mwyn gwarchod yr amgylchedd hanesyddol.
Beth mae’r newid hwn yn ei olygu?
Bydd gweithredu’r Cyfarwyddyd Erthygl 4(1) yn galluogi’r Awdurdod i orfodi caniatâd cynllunio ar gyfer safleoedd gwersylla, carafanau a chartrefi symudol 28 diwrnod dros dro. Mae’r mesur hwn yn sicrhau bod eu lleoliad a’u gweithrediad yn cael eu rheoli’n ofalus i ddiogelu amgylchedd unigryw’r Parc Cenedlaethol.
Bydd y Cyfarwyddyd Erthygl 4, a ddaw i rym ddydd Mercher 1 Ionawr 2026, yn cynnwys cyfnod pontio i ganiatáu digon o amser i dirfeddianwyr a gweithredwyr safleoedd ddeall y gofynion newydd a chyflwyno ceisiadau cynllunio. Ni fydd ffioedd yn gysylltiedig â cheisiadau cynllunio ar gyfer y safleoedd hyn, a bydd yr Awdurdod yn ceisio blaenoriaethu ceisiadau i leihau oedi. Ni fydd y Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn effeithio ar safleoedd presennol sydd â chaniatâd cynllunio neu’r safleoedd hynny sy’n gweithredu o dan dystysgrif sefydliad eithriedig.
Cyfnod Ymgynghori
Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 10 Ionawr 2025 a 21 Chwefror 2025. Efallai na fydd sylwadau a gyflwynir ar ôl 5pm ar 21 Chwefror 2025 yn cael eu hystyried.
Sut i gymryd rhan
Rydym yn gwahodd sylwadau ar Gyfarwyddyd Erthygl 4.
Gellir gweld y dogfennau sy’n ymwneud â Chyfarwyddyd Erthygl 4 yma:
Atodiad B Rhan 1&2 Asesiad Integredig
Papur Cefndir (Atodiad C i Adroddiad APC)
Copi o Hysbysiad (Atodiad D rhan 1)
Cyfarwyddyd Erthygl 4 (1) gyda map (Atodiad D rhan 2 i adroddiad APC)
Protocol Gweithio (Atodiad E i Adroddiad APC)
Adroddiad Ymgynghori (Dolen i https://www.arfordirpenfro.cymru/awdurdod-y-parc-cenedlaethol/pwyllgorau/papurau-pwyllgor/awdurdod-y-parc-cenedlaethol-11-12-2024/)
Gellir gweld yr adroddiadau ar-lein hefyd mewn llyfrgelloedd lleol.
Cwestiynau Cyffredin
Cwestiynau Cyffredin Gwersylla a Charafanau
Sut i gyflwyno eich sylwadau
Y dull mwyaf cyfleus yw ar-lein.
I gyflwyno sylwadau trwy ein holiadur ar-lein, defnyddiwch y ddolen isod:
Holiadur: https://forms.office.com/e/7HT2jp9wm3
Fel arall, os byddai’n well gennych ysgrifennu atom, cyfeiriwch yn benodol at y mater/polisi rydych yn gwneud sylwadau arno a chysylltwch â ni drwy’r dulliau canlynol:
E-bost: devplans@pembrokeshirecoast.org.uk.
Cyfeiriad post: Polisi Strategol yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY
Rhaid i chi gynnwys eich enw, e-bost a chyfeiriad yn eich ymateb.
Datganiad preifatrwydd
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad.
Mae data personol a ddarperir fel rhan o’r ymgynghoriad hwn yn seiliedig ar ganiatâd ac wedi’i gyfyngu i ddarparu cyfeiriad e-bost os dymunwch dderbyn copi o’r adroddiad ymgynghori. Os oes modd adnabod unrhyw berson o ddata a ddatgelwyd fel rhan o gwestiwn, bydd y data hwn yn cael ei wneud yn ddienw. Ni chyhoeddir unrhyw ddata lle mae modd adnabod unigolyn.
Lle mae sefydliad wedi darparu ymateb, ni fydd enw’r sefydliad yn cael ei gyhoeddi yn erbyn ei ymateb oni bai y rhoddwyd caniatâd i ni wneud hynny fel rhan o’r arolwg hwn.
Mae ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn cynnwys rhagor o wybodaeth am eich hawliau mewn perthynas â’ch data personol, sut i gwyno a sut i gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data.
Mae eich data personol yn cael ei brosesu ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gan Microsoft Forms, gan mai nhw yw ein darparwr meddalwedd casglu arolygon cyfredol yn unig.
Ni chaiff data ei rannu ag unrhyw barti arall.
Derbyn copi o’r Adroddiad Ymgynghori
Bydd y cyfeiriad e-bost a roddwch yn cael ei ddefnyddio ar gyfer anfon yr Adroddiad Ymgynghori yn unig ac ni chaiff ei gyhoeddi. Bydd yn cael ei brosesu gan Swyddog Perfformiad a Chydymffurfiaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’i gadw tan 30 Ebrill 2025 yn unig.
I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn diogelu data personol a’ch hawliau data, cyfeiriwch at ein Polisi Preifatrwydd: www.arfordirpenfro.cymru/preifatrwydd/
Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd cyn i’r adroddiad gael ei anfon drwy gysylltu â: gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk.
Sylwch y bydd yr Adroddiad Ymgynghori ar gael i’r cyhoedd ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.