Ymgynghoriad ar Gwerthusiad a Chynllun Rheolaeth Drafft Ardal Gadwraeth Cei Cresswell

Posted On : 31/03/2025

Ymgynghoriad ar Gwerthusiad a Chynllun Rheolaeth Drafft Ardal Gadwraeth Cei Cresswell

 

Gwahoddir sylwadau yn bresennol ynghylch Gwerthusiad a Chynllun Rheolaeth Drafft Ardal Gadwraeth Cei Cresswell. Mae’r cynllun yn:

  • Crynhoi hanes yr ardal
  • Nodi adeiladau pwysig, ardaloedd agored a nodweddion adeilad sydd yn arbennig i gymeriad ac edrychiad yr ardal
  • Darparu arweiniad ar ddatblygiad newydd a sut i warchod a gofalu am yr hyn sy’n gwneud yr ardal gadwraeth mor arbennig

Bwriedir mabwysiadu’r canllawiau fel Canllawiau Cynllunio Atodol i ffurfio ystyriaeth gynllunio berthnasol ar gyfer rheolaeth gadarnhaol yr ardal gadwraeth.

 

Cynllun Drafft Gwerthuso a Rheoli ar Gyfer Ymgymhoriad

 

 

Bydd digwyddiad ymgysylltu ar-lein yn cael ei gynnal ar Microsoft Team ddydd Mawrth 29 Ebrill o 7pm tan 8pm. Cofrestrwch eich diddordeb mewn mynychu drwy anfon e-bost at devplans@pembrokeshirecoast.org.uk  Rhowch wybod inni erbyn dydd Llun 21 Ebrill os hoffech ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, fel bod modd trefnu gwasanaethau cyfieithu.

 

Cynhelir y cyfnod ymgynghori o 5pm ar y 30ain o Fai 2025.

 

Sut i gyflwyno eich sylwadau

 

I gyflwyno sylwadau trwy ein holiadur ar-lein, defnyddiwch y ddolen isod:

https://forms.office.com/e/uyJD4JAMgp

 

Fel arall, os byddai’n well gennych ysgrifennu atom, cyfeiriwch yn benodol at y mater rydych yn gwneud sylwadau arno a chysylltwch â ni drwy’r dulliau canlynol:

E-bost:  devplans@pembrokeshirecoast.org.uk.

Cyfeiriad post: Polisi Strategol yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY

 

Caiff yr holl sylwadau eu cydnabod a byddant yn cael eu cyhoeddi.  Ymatebir i sylwadau mewn Adroddiad Ymgynghori a byddant yn cael eu hadrodd i Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Tîm Polisi Strategol drwy anfon e-bost at devplans@pembrokeshirecoast.org.uk neu galwch 01646 624800.

 

 


 

Datganiad preifatrwydd

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad.

Mae data personol a ddarperir fel rhan o’r ymgynghoriad hwn yn seiliedig ar ganiatâd ac wedi’i gyfyngu i ddarparu cyfeiriad e-bost os dymunwch dderbyn copi o’r adroddiad ymgynghori. Os oes modd adnabod unrhyw berson o ddata a ddatgelwyd fel rhan o gwestiwn, bydd y data hwn yn cael ei wneud yn ddienw. Ni chyhoeddir unrhyw ddata lle mae modd adnabod unigolyn.

Lle mae sefydliad wedi darparu ymateb, ni fydd enw’r sefydliad yn cael ei gyhoeddi yn erbyn ei ymateb oni bai y rhoddwyd caniatâd i ni wneud hynny fel rhan o’r arolwg hwn.

Mae ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn cynnwys rhagor o wybodaeth am eich hawliau mewn perthynas â’ch data personol, sut i gwyno a sut i gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data.

Mae eich data personol yn cael ei brosesu ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gan Microsoft Forms, gan mai nhw yw ein darparwr meddalwedd casglu arolygon cyfredol yn unig.

Ni chaiff data ei rannu ag unrhyw barti arall.