Beth yw’r Cynllun Datblygu Lleol?
Cafodd Cynllun Datblygu Lleol 2 ei fabwysiadu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ym mis Medi 2020. Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn gosod allan gynigion yr awdurdod ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol a’r defnydd a wneir o’r tir yn y Parc Cenedlaethol. Mae gofyn i’r holl benderfyniadau cynllunio gael eu gwneud yn unol â’r Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd, fel ei fod yn darparu peth sicrwydd ynghylch pa ddatblygiadau a fydd neu na fydd yn cael eu caniatáu.
Pam ei fod yn cael ei adolygu?
Rydym wedi ymrwymo’n gyfreithiol i adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol o leiaf bob pedair blynedd o’r dyddiad y cafodd ei fabwysiadu. Rydym angen gwirio i weld p’un ai yw polisïau’n perfformio’n dda, a ph’un a ydynt yn addas o gofio’r pwysau, yr heriau a’r newidiadau newydd ym mholisïau neu ddeddfwriaeth y llywodraeth. Mae’r Adolygiad Blynyddol yn gosod allan ganfyddiadau’r adolygiad ac yn dod i gasgliad p’un a fydd yr Awdurdod yn ymgymryd ag adolygiad llawn neu un rhannol o’r Cynllun Datblygu Lleol 2 a fabwysiadwyd.
Y Cyfnod Ymgynghori
Bydd yr ymgynghoriad yn digwydd o 10 Ionawr 2025 hyd 21 Chwefror 2025. Mae’n bosib na fydd sylwadau a gyflwynir wedi 5pm ar 21 Chwefror 2025 yn cael eu hystyried.
Sut i gymryd rhan
Rydym yn gwahodd sylwadau ar Adroddiad yr Adolygiad ac Adroddiad Monitro Blynyddol 2021-2024.
Gallwch weld drafft o Adroddiad Adolygiad Cynllun Datblygu Lleol 2 ar-lein o 11 Rhagfyr 2024 ymlaen yma.
Gallwch weld Cynllun Datblygu Lleol 2 yma: Cynllun Datblygu Lleol 2 – Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae’r trydydd Adroddiad Monitro Blynyddol 2023-2024 nawr ar gael a gellir ei weld yma Adroddiadau Monitro Blynyddol – Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Gellir edrych ar yr adroddiadau ar-lein mewn llyfrgelloedd lleol hefyd.
Sut i gyflwyno eich sylwadau
Y dull mwyaf cyfleus yw ar-lein.
Cyfeiriwch yn benodol at y mater/polisi rydych yn gwneud sylwadau arnynt os gwelwch yn dda.
E-bostiwch devplans@pembrokeshirecoast.org.uk
Cyfeiriad post: Polisi Strategol Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY.
Mae’n rhaid i chi gynnwys eich enw, e-bost a chyfeiriad wrth ymateb.
Datganiad preifatrwydd
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fydd y rheolwr data ar gyfer unrhyw ddata personol rydych yn ei ddarparu fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad.
Mae data personol a ddarperir fel rhan o’r ymgynghoriad hwn yn seiliedig ar ganiatâd ac mae’n gyfyngedig i ddarparu cyfeiriad e-bost os ydych yn dymuno derbyn copi o adroddiad yr ymgynghoriad. Os oes unrhyw berson y gellir eu hadnabod o ddata a ddatgelwyd fel rhan o gwestiwn, yna bydd y data yma yn ymddangos yn ddi-enw. Ni chyhoeddir unrhyw ddata y gellir adnabod unigolyn ohono.
Lle mae sefydliad wedi darparu ymateb, dim ond enw’r sefydliad fydd yn cael ei gyhoeddi yn erbyn yr ymateb os yw’r caniatâd am wneud hynny wedi’i roi fel rhan o’r arolwg hwn.
Mae gan ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol ragor o wybodaeth ynghylch eich hawliau mewn perthynas â’ch data personol, sut i wneud cwyn a sut i gysylltu gyda’r swyddog Gwarchod Data.
Bydd eich data personol yn cael ei brosesu ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gan Microsoft Forms, o safbwynt mai hwy yn unig yw ein darparwr meddalwedd presennol sy’n casglu arolwg.
Ni fydd data’n yn cael ei rannu gydag unrhyw barti arall.
Derbyn copi o’r Adroddiad Ymgynghori
Bydd y cyfeiriad e-bost a roddwch yn cael ei ddefnyddio ar gyfer anfon yr Adroddiad Ymgynghori yn unig ac ni chaiff ei gyhoeddi. Bydd yn cael ei brosesu gan Swyddog Perfformiad a Chydymffurfiaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’i gadw tan 30 Ebrill 2025 yn unig.
I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn diogelu data personol a’ch hawliau data, cyfeiriwch at ein Polisi Preifatrwydd: www.arfordirpenfro.cymru/preifatrwydd/
Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd cyn i’r adroddiad gael ei anfon drwy gysylltu â: gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk.
Sylwch y bydd yr Adroddiad Ymgynghori ar gael i’r cyhoedd ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.