Eich Parc chi yw Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Felly, yma yn Awdurdod y Parc Cenedlaethol, gofynnwn yn aml am eich sylwadau ar y gwaith yr ydym yn ei wneud i helpu sicrhau bod eich Parc chi yn parhau i fod yn lle arbennig y gall pawb ei fwynhau.
Mae eich barn yn helpu llunio siâp ein polisïau a’n canllawiau ar gyfer y dyfodol, ar bopeth o dai i fynediad at Lwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
Os hoffech gael y cyfle i ddylanwadu ar y gwaith rydym yn ei wneud, edrychwch ar yr hyn y mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ymgynghori arno ar hyn o bryd trwy glicio ar y dolenni ar y dde ac isod.
Ymgynghoriadau Awdurdod y Parc
Ymgynghoriad Cyhoeddus yn dechrau ar Adroddiad Cynllun Datblygu Lleol 2 Awdurdod Parc Cenedlaethol ac Adroddiad Monitro Blynyddol 2023-2024
Beth yw’r Cynllun Datblygu Lleol?
Cafodd Cynllun Datblygu Lleol 2 ei fabwysiadu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ym mis Medi 2020. Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn gosod allan gynigion yr awdurdod ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol a’r defnydd a wneir o’r tir yn y Parc Cenedlaethol. Mae gofyn i’r holl benderfyniadau cynllunio gael eu gwneud yn unol â’r Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd, fel ei fod yn darparu peth sicrwydd ynghylch pa ddatblygiadau a fydd neu na fydd yn cael eu caniatáu.
I weld y dudalen ymgynghori cliciwch yma
Tudalen Ymgynghori Cyfarwyddyd Erthygl 4(1)
Ymgynghoriad y Parc Cenedlaethol yn dechrau ar y cynnig i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 i ddileu hawliau datblygu a ganiateir ar ddefnydd o dir am hyd at 28 diwrnod ar gyfer gwersylla, charafannau a chartrefi symudol.
Beth yw Cyfarwyddyd Erthygl 4(1)?
Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn tynnu’n ôl y caniatâd cynllunio y mae’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir yn ei roi ar gyfer dosbarth o ddatblygiad. Caniateir i gyfarwyddyd o’r fath gael ei wneud gan Awdurdod Cynllunio Lleol neu gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 4 o’r gorchymyn hwnnw. Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol rai Cyfarwyddiadau Erthygl 4 eisoes ar waith mewn perthynas ag Ardaloedd Cadwraeth er mwyn gwarchod yr amgylchedd hanesyddol.
I weld y dudalen ymgynghori cliciwch yma
Ymgynghoriad Cynllun ac Amcanion Cydraddoldeb Drafft
Gofynnir i aelodau’r cyhoedd roi eu barn ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol a’r Amcanion yr Awdurdod am y pedair blynedd nesaf.
Mae’r cynllun drafft ar gyfer 2025-2029 yn disgrifio’r modd y mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn bwriadu parhau â’i ymrwymiad i gydraddoldeb a’r modd y bydd yr Awdurdod yn bodloni’r rhwymedigaethau cyfreithiol a gynhwysir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Mae’r cynllun wedi’i ddatblygu yn dilyn
- adolygiad o’r ymchwil cysylltiedig a’r dogfennau polisi.
- y camau ymlaen a gymerwyd o ran ein hamcanion cydraddoldeb presennol.
- yr ymgysylltu â’r cyhoedd a gynhaliwyd ar y cyd â sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus eraill ar hyd a lled De-orllewin Cymru yn ystod 2023.
Cyn i’r cynllun terfynol gael ei gyflwyno gerbron yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, gofynnir i’r cyhoedd a ydynt yn cytuno â’n blaenoriaethau, a gwneud unrhyw sylwadau ar y cynllun drafft.
A fyddech gystal â llenwi a chyflwyno eich arolwg erbyn 17 Ionawr 2025.
Dogfennau Ymgynghori
1. Cynllun Cydraddoldeb Drafft 2025-2029
3. Fersiwn Hawdd ei Ddeall o’r Cynllun Cydraddoldeb Drafft 2025-2029
4. Ffurflen ymateb i’r fersiwn Hawdd ei Ddeall
Datganiad preifatrwydd:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad.
Mae data personol a ddarperir fel rhan o’r ymgynghoriad hwn yn seiliedig ar ganiatâd ac wedi’i gyfyngu i ddarparu cyfeiriad e-bost os dymunwch dderbyn copi o’r adroddiad ymgynghori.
Os oes modd adnabod unrhyw berson o’r data a ddatgelir fel rhan o gwestiwn, bydd y data hwnnw yn cael ei anonymeiddio. Ni chyhoeddir unrhyw ddata allai adnabod unigolyn.
Lle bo sefydliad wedi ymateb, ni fydd enw’r sefydliad yn cael ei gyhoeddi yn erbyn ei ymateb oni bai y rhoddwyd caniatâd i ni wneud hynny fel rhan o’r arolwg hwn.
Mae ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn cynnwys rhagor o wybodaeth am eich hawliau o ran eich data personol, sut i gwyno a sut i gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data.
Mae eich data personol yn cael ei brosesu ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gan Microsoft Forms, dim ond o ran mai hwy yw ein darparwr meddalwedd casglu arolygon cyfredol.
Ni chaiff data ei rannu ag unrhyw barti arall.
Derbyn copi o’r Adroddiad Ymgynghori
Bydd yr holiadur yn gofyn i chi a ydych am dderbyn copi o’r Adroddiad Ymgynghori. (Bydd yr Adroddiad Ymgynghori yn dweud wrthych sut yr ystyriwyd eich sylwadau.) Os dymunwch dderbyn copi, bydd y ffurflen yn gofyn i chi roi cyfeiriad e-bost fel y gallwn anfon copi atoch.
Bydd y cyfeiriad e-bost a roddwch yn cael ei ddefnyddio dim ond at ddiben anfon yr Adroddiad Ymgynghori atoch. Ni fydd yn cael ei gyhoeddi. Bydd yn cael ei brosesu gan Swyddog Perfformiad a Chydymffurfiaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Dim ond tan 31 Mawrth 2025 y bydd unrhyw gyfeiriad e-bost a roddwch at y diben hwn yn cael ei gadw. Mae rhagor o wybodaeth am y modd yr ydym yn cadw data personol yn ddiogel, a’ch hawliau data, ar gael yn ein Polisi Preifatrwydd: www.arfordirpenfro.cymru/preifatrwydd/
Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw adeg cyn i’r adroddiad gael ei anfon. I dynnu eich caniatâd yn ôl, cysylltwch ag: gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk
Sylwer y bydd yr Adroddiad Ymgynghori ar gael i’r cyhoedd ac ar gael ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.