Ardal Gadwraeth Arfaethedig Cei Cresswell

Posted On : 30/07/2024

Ymgynghoriad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar yr Ardal Gadwraeth Arfaethedig Cei Cresswell.

Mae Cei Cresswell yn bentref o bwysigrwydd hanesyddol eithriadol oherwydd ei gyfraniad cynnar iawn fel porthladd glofaol, ac mae wedi cadw nifer o adeiladau o safon uchel yn bensaernïol ac yn archeolegol.

Mae gan Awdurdodau Cynllunio Lleol ddyletswydd i ddynodi ac adolygu Ardaloedd Cadwraeth (Ardaloedd o Ddiddordeb Archeolegol neu Hanesyddol Arbennig) o dan Adran 69 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

Yng nghyfarfod Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar 24 Gorffennaf 2024, ystyriwyd y dylai Cei Cresswell a’r ardaloedd cyfagos gael ei dynodi yn Ardal Gadwraeth ynghyd â’r pedair ardal ar deg sydd eisoes yn bodoli o fewn yr Awdurdod Parc Cenedlaethol.

Prif effeithiau dynodi Ardal Gadwraeth yw:

a) Mae’n rhaid dal sylw wrth gyflawni ein dyletswyddau i warchod neu wella cymeriad neu ymddangosiad yr ardal, ac mae’n rhaid paratoi a chyhoeddi cynigion ar gyfer ei gwarchod a’i gwella.

b) Mae’n rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i geisiadau cynllunio i’w datblygu fydd yn effeithio ar gymeriad neu ymddangosiad yr ardal a chymryd i ystyriaeth yr achosion a dderbyniwyd o ganlyniad i gyhoeddusrwydd; ac

c) Mae’n dod yn drosedd, sy’n ddarostyngedig i rai eithriadau penodol, i dorri lawr, tocio, codi gwraidd neu ddifrodi neu ddinistrio’n fwriadol unrhyw goeden yn yr ardal ac eithrio gyda chaniatâd yr Awdurdod Cynllunio Lleol;

d) Bydd angen Caniatâd Ardal Gadwraeth ar gyfer dymchwel pob adeilad sydd heb ei restru (ac eithrio adeiladau derbyniol) yn yr ardal – dros 115 metr ciwbig.

O ystyried y cyfyngiadau presennol ar hawliau datblygu a ganiateir i berchnogion tai, mewn gwirionedd mae’r unig gyfyngiadau o fewn yr ardal estynedig yn berthnasol i ddymchweliadau a choed. Pwrpas y dynodiad yw nid i atal newid ond i’w reoli mewn ffordd sy’n cynnal neu’n cryfhau nodweddion arbennig yr ardal.

Bydd unrhyw reoliadau ychwanegol (megis Erthygl 4(2) Cyfarwyddyd sy’n tynnu’n ôl rhai hawliau datblygu penodol a ganiateir) yn rhan o broses ar wahân i’r Ardal Gadwraeth arfaethedig.

Bydd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn cynnal digwyddiad galw heibio yn Ysgoldy Capel Pisgah ddydd Iau 8 Awst rhwng 3pm – 7pm i ateb unrhyw ymholiadau wyneb yn wyneb.

Cwblhewch yr Holiadur Cei Cresswell (dwyieithog) gyda’ch barn am y dewisiadau arfaethedig os gwelwch yn dda. Neu dylid cyflwyno sylwadau yn ysgrifenedig i’r Tîm Polisi Strategol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY neu drwy e-bost at devplans@pembrokeshirecoast.org.uk.

Bydd y cyfnod ymgynghori yn parhau hyd 5pm ar ddydd Llun 23 Medi 2024.