Cynllun Partneriaeth 2025-2029
Cynllun Partneriaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2025-2029 – drafft ar gyfer ymgynghori
Mae nifer o sefydliadau ac unigolion yn cyfrannu at ddibenion y Parc Cenedlaethol o ran cadwraeth, mwynhad a dealltwriaeth. Mae Cynllun Partneriaeth y Parc Cenedlaethol (a elwid gynt yn Gynllun Rheoli Parc Cenedlaethol) yn fodd o gydgysylltu’r ymdrech honno. Cynllun yw hwn ar gyfer ardal y Parc Cenedlaethol, nid dim ond ar gyfer yr Awdurdod. Yn 2024, gofynnodd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol am farn pobl ar yr hyn yw rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol, y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r rhinweddau arbennig hynny, a’r modd o’u datrys. Cafodd y safbwyntiau hynny eu defnyddio i baratoi Cynllun Partneriaeth drafft, ac mae croeso i chi fynegi eich barn ar y drafft hwn. Mae amrywiol asesiadau effaith, sydd ar gael i roi sylwadau arnynt, wedi bod o gryn fudd i’r cynllun drafft. Y dyddiad terfynol ar gyfer cyflwyniadau yw dydd 5pm ddydd Llun 30 Medi 2024. Dogfennau ymgynghori: 1 Cynllun Partneriaeth y Parc Cenedlaethol 2025-2029 – drafft ar gyfer ymgynghori 2 Fersiwn Hawdd ei Ddeall o’r Cynllun Partneriaeth a’r ffurflen ymateb i’r fersiwn Hawdd ei Ddeall (Dewiswch ‘Cymraeg’ o’r ddewislen) Asesiadau: Arfarniad Drafft o Gynaliadwyedd (yn cynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol): 4a Adroddiad Arfarniad Cynaliadwyedd Cychwynnol Drafft Crynodeb Gweithredol 4b Adroddiad Arfarniad Cynaliadwyedd Cychwynnol Drafft 4c Atodiad A – Adolygiad o Gynlluniau, Polisïau a Rhaglenni Perthnasol 4d Atodiad B – Gwybodaeth Waelodlin 4e Atodiad C – Asesiadau Polisi Manwl 5 Asesiad drafft o’r Rheoliadau Cynefinoedd 6 Asesiad drafft o’r Effaith ar Gydraddoldeb 7 Asesiad drafft o’r Effaith ar y Gymraeg 8 Asesiad drafft o Lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 11 Adroddiad ar yr ymgynghoriad ar yr arolwg o Rinweddau Arbennig 12 Adroddiad Cwmpasu (Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â’r Adroddiad Ymgynghori ar yr Adroddiad Cwmpasu.) 13 Adroddiad ar yr Ymgynghoriad ar yr Adroddiad Cwmpasu Yn dilyn yr ymgynghori, bydd adroddiad yn cael ei baratoi i egluro’r modd y mae’r sylwadau wedi eu cymryd i ystyriaeth, a bydd Cynllun Partneriaeth diwygiedig yn cael ei baratoi i’w fabwysiadu gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol. Datganiad preifatrwydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad. Mae data personol a ddarperir fel rhan o’r ymgynghoriad hwn yn seiliedig ar ganiatâd ac wedi’i gyfyngu i ddarparu cyfeiriad e-bost os dymunwch dderbyn copi o’r adroddiad ymgynghori. Os oes modd adnabod unrhyw berson o’r data a ddatgelir fel rhan o gwestiwn, bydd y data hwnnw yn cael ei anonymeiddio. Ni chyhoeddir unrhyw ddata allai adnabod unigolyn. Lle bo sefydliad wedi ymateb, ni fydd enw’r sefydliad yn cael ei gyhoeddi yn erbyn ei ymateb oni bai y rhoddwyd caniatâd i ni wneud hynny fel rhan o’r arolwg hwn. Mae ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn cynnwys rhagor o wybodaeth am eich hawliau o ran eich data personol, sut i gwyno a sut i gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data. Mae eich data personol yn cael ei brosesu ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gan Microsoft Forms, dim ond o ran mai hwy yw ein darparwr meddalwedd casglu arolygon cyfredol. Ni chaiff data ei rannu ag unrhyw barti arall. |